Diolch i chi i gyd. O'r cyd-destun, ro'n i'n tybio mai gwyddor oedd 'deep
computing' yn yr achos hwn, ac felly mi roddais 'cyfrifiaduraeth ddofn' gan
obeithio y byddai'r term o leiaf yn ddealladwy i'r boffiniaid! Ond rwy'n
cytuno y byddai 'cyfrifiadura' yn well fel rheol.
Yn ddwys a diystyr
Glenys
----- Original Message -----
From: "Dafydd Tomos" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Wednesday, February 16, 2005 3:31 PM
Subject: Re: Deep computing
>> O'r hyn a welaf, term marchnata eitha niwlog yw Deep Computing, o du
>> cwmni IBM. Sylwer ar e.e.
>> http://www.ibm.com/servers/deepcomputing/what.html
>
> o 'Deep Blue' siwr o fod. Fasen i'n cynnig rhywbeth fel 'cyfrifiaduro
> cymhleth' (complex nid complicated) neu 'cyfrifiaduro dwys' (rhywbeth
> sydd angen perfformiad uwch o lawer na'r cyffredin).
>
> Ond gan mai term marchnata yw yn bennaf, galle fod 'Cyfrifiaduro Dwfn'
> yn iawn, er ychydig yn ddi-ystyr.
>
|