Mi fum yn nyrsio am dymor...amser MAITH yn ol - mewn ysbyty hen bobl,
a 'torri' oeddem yn ei ddweud pan oedd ganddynt ddoluriau gwasgu oherwydd
gorwedd ar yr un ran o'r corff yn rhy hir.
Dafydd
On Tue, 1 Feb 2005 15:05:32 -0000, teulu lewis <[log in to unmask]>
wrote:
>torri ydi'r term dwi wedi ei glywed a'i arfer erioed- croen rhywun wedi
torri, peth a'r peth yn arwain at y croen yn torri ....rhywun wedi cael
anaf ddigon drwg i dorri'r croen...
>Dwi'n gwybod ein bod hefyd yn defnyddio torri i olygu chapped - ond am wn
i mae'r cyd-destun yn gwneud y peth yn glir.....
>gyrra'r ymadrodd cyfan os lici di.....a thriwn eto....
>magi
> ----- Original Message -----
> From: Sylvia Prys Jones
> To: [log in to unmask]
> Sent: Tuesday, February 01, 2005 11:01
> Subject: Re: skin breakdown
>
>
> Term meddygol cyffredinol, mae'n gallu cyfeirio at unrhyw gyflwr lle
mae ansawdd y croen yn gwaethygu e.e. person sy'n gaeth i'r gwely a'r
croen yn mynd yn goch ac yn llidus mewn man gwasgu, ac mewn peryg o dorri
a mynd yn ddolurus, neu berson ifanc efo acne - croen yn dirywio felly?
>
|