Yn gyntaf, a ydych chi'n sicr y dylid cyfieithu'r enw - ynteu ai enw
masnachol ydyw?
Os penderfynwch fynd yn eich blaen, beth am RADNES - gwasanaethau RADar y
Genhedlaeth NESaf?
Ann
----- Original Message -----
From: "Rhys Jones" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Sunday, February 13, 2005 5:23 PM
Subject: NEXRAD
> Sef: NEXt generation RADar services - mae yna orsafoedd NEXRAD ar hyd
> a lled yr Amerig. Mae'n debyg eu bônt yn medru mesur glaw a gwynt,
> drwy broses Doppler (os yw hi'n bwrw glaw, y ddamcaniaeth yw bod y
> signal a anfonir yn cymryd mwy o amser na'r cyffredin i ddychwelyd at
> yr orsaf radar).
>
> Gwasanaethau Radar Cenhedlaeth Newydd (GwaRaCeN?) sydd gen i ar hyn o
> bryd, ond mae'n swnio braidd yn drwsgwl...
>
> Rhys
> --
> http://cysyllta.blogspot.com/
>
>
>
|