> On Mon, 07 Feb 2005 17:10:46 -0800 (PST), Huw Garan
<[log in to unmask]> wrote:
>
> > Mae'n amlwg wedi llyncu thesawrws, mae'r canlyniadau'n fwy diddorol
byth
> > wrth ofyn am gyfieithu pob cyfieithad yn ol ac ymlaen!
>
> Yr hyn ddigwyddodd, os cofiaf yn iawn, oedd i'r bobl sy'n rhedeg y
> safle ofyn i Mark Nodine am ganiatad i ddefnyddio ei eiriadur ef (yr
> un y ceir fersiwn ar-lein ohono fan hyn:
> http://www.cs.cf.ac.uk/fun/welsh/LexiconForms.html ). Yn anffodus,
> dyna'r cyfan mae'n ymddangos maen nhw wedi gwneud. Does dim son am
> gystrawen, na synnwyr, a pheryg nad ydyn nhw erioed wedi clywed am
> lemateiddiwr. Felly cyfieithiad slafaidd gair-am-air geir.
Dwi'n amau fod y safle'n defnyddio fy ngeiriadur, er ei bod hi'n
bosibl. Dwi'n eitha rhydd wrth adael i eraill ei ddefnyddio er
purpasau difasnachol. Ond mae rhaid ifi gyfaddef mod i'n llwyr ar
goll wrth geisio esbonio pam mae "heartburn" mor gyffredin yn
y trosiadau. Yr un deffiniad sy gen i am "heartburn" yw "dw+r poeth".
Gadewch imi hefyd rhoi diolch i chi, annwyl aelodau'r rhestr, am
gymaint o wybodaeth i atodi i fy ngeiriadur ac i'w gywiro/wella.
--Mark
|