Ar yr Alltwen yng Nghwm Tawe, slawer dydd, roedd Siôni yn hael wrth bwrs y
wlad, Siôni bob ochor a Siôni Winwns. Ar ymyl y pentre nesaf, Rhos Bryn
Hir, yn tu ôl i Gefen Celfi, enw'r mynydd yw March Hywel!
Gwynallt
----- Original Message -----
From: "Catrin Alun" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Wednesday, February 02, 2005 11:19 PM
Subject: Re: Joe Bloggs
Roeddwn i'n meddwl mai Hywel oedd yn hael ar bwrs y wlad!
Catrin
----- Original Message -----
From: "Gwynallt Bowen" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Wednesday, February 02, 2005 8:59 PM
Subject: Re: Joe Bloggs
Gwn fod Joe Bloggs neu Joseph Bloggs, fel y byddai ei fam yn ei alw, yn enw
ar ddyn ond bob tro byddai'n clywed yr ymadrodd byddai'n meddwl taw
cyfeirio at y werin bobl neu aeolod cyffredin o'r cyhoedd yw ystyr yr
ymadrodd. Hyd y gwn i byddai Sioni neu Siôn Gymro yn gwneud y tro, e.e." Un
hael yw Siôn ar bwrs y wlad "
Gwynallt
----- Original Message -----
From: "Geraint Løvgreen" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Wednesday, February 02, 2005 9:32 AM
Subject: Re: Joe Bloggs
Mae Joe Bloggs yn enw dyn hefyd - be am Josephine Bloggs?
----- Original Message -----
From: "Berwyn Jones" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Wednesday, February 02, 2005 8:32 AM
Subject: Re: Joe Bloggs
Byddai hynny'n cythruddo masgwlinistiaid, os yw'r fath greaduriaid yn bod
...!
Rhan o'r broblem, wrth gwrs, yw bod y gosodiad Saesneg mor ddwl. Beth yn
union yw ystyr 'ask to speak to Joe Bloggs'? A ellid dweud 'gofynnwch am
gael siarad ag unrhyw un (arall)/â rhywun arall ar ...' neu 'gofynnwch am
gael siarad â phwy bynnag sydd ar .../sy'n ateb y ffôn ar ...'. Neu ai'r
disgwyl yw i'r testun gael ei addasu drwy i'r sawl sy'n ei ddarllen roi
enw'r person go-iawn yn lle 'Joe Bloggs'?
Efallai y byddai Muiris cystal â'n goleuo!
Berwyn
----- Original Message -----
From: "Geraint Løvgreen" <[log in to unmask]>
To: "Berwyn Prys Jones" <[log in to unmask]>
Sent: Tuesday, February 01, 2005 5:36 PM
Subject: Re: Joe Bloggs
O ie! Beth am y ffordd arall o gwmpas te - Hon a Hon yn gyntaf, ac wedyn Hwn
a Hwn?
----- Original Message -----
From: "Berwyn Jones" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Tuesday, February 01, 2005 5:16 PM
Subject: Re: Joe Bloggs
Dim byd mawr o'i le arno, ond efallai y byddai'n annoeth awgrymu mai am
ferch y dylid gofyn ar ôl methu cael gafael ar ddyn!
Berwyn
----- Original Message -----
From: "Geraint Løvgreen" <[log in to unmask]>
To: "Berwyn Prys Jones" <[log in to unmask]>
Sent: Tuesday, February 01, 2005 5:05 PM
Subject: Re: Joe Bloggs
Ond mae John Jones yn rhy debygol o fod yn enw go-iawn!
- yn wahanol i Joe Bloggs.
Be'n union sy'n bod ar ddeud Hwn a Hwn, a Hon a Hon yn y cyd-destun yma?
Geraint
----- Original Message -----
From: "Berwyn Jones" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Tuesday, February 01, 2005 2:01 PM
Subject: Re: Joe Bloggs
John Jones! A 'y dyn ar y bws i'r Bala' oedd gan Robyn Lewis am 'the man on
the Clapham omnibus'.
Berwyn
----- Original Message -----
From: "Dafydd Tomos" <[log in to unmask]>
To: "Berwyn Prys Jones" <[log in to unmask]>
Sent: Tuesday, February 01, 2005 1:38 PM
Subject: Re: Joe Bloggs
> Os enw Cymraeg 'ffug' fyddai'n gweithio yn lle
>
> ....Joe Bloggs ....
O rhywle yn ddwfn yn fy nghôf i mae'r enw 'Sioni Siencyn'
wedi dod i'r wyneb, ond dwi ddim yn meddwl fod e wedi ei
ei ddefnyddio yn y cyd-destun yma chwaith.
Oes unrhywun yn gwybod o le daeth Sioni? (dwi'n credu fod
y peth yr un ystyr 'pob wan jac'.)
--
No virus found in this incoming message.
Checked by AVG Anti-Virus.
Version: 7.0.300 / Virus Database: 265.8.2 - Release Date: 28/01/05
--
No virus found in this outgoing message.

Version: 7.0.300 / Virus Database: 265.8.4 - Release Date: 01/02/05

Version: 7.0.300 / Virus Database: 265.8.4 - Release Date: 2/1/2005
--
No virus found in this outgoing message.
Checked by AVG Anti-Virus.
Version: 7.0.300 / Virus Database: 265.8.4 - Release Date: 2/1/2005
|