Rwy'n ofni mod innau'n bersonol yn teimlo bod cysylltiadau braidd yn
anffodus yn dod i'r meddwl wrth ddefnyddio'r term hwnnw - rwy'n cael rhyw
ddarlun o hen fenyw o'r oes o'r blaen sy'n fyddar fel postyn gyda rhywrai'n
gweiddi mewn i'w chorn gwrando/'ear trumpet', ond yn ofer - delwedd braidd
yn anffodus/eironig i gyfieithydd ar y pryd!
Ond hwyrach mod i'n eithriad yn hyn o beth?
Fiona
>From: Judith Kaufmann <[log in to unmask]>
>Reply-To: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
> <[log in to unmask]>
>To: [log in to unmask]
>Subject: cyrn gwrando
>Date: Thu, 3 Feb 2005 12:21:20 -0000
>
>Mae Megan a fi yn hoff o'r term 'cyrn gwrando' a ddefnyddiodd Wyn am y
>clustffonau cyfieithu yn y gynhadledd ddiwethaf. Dw i wedi clywed
>'clustdlysau cyfieithu' hefyd ers hyn, ond mae'n swnio'n rhy hir imi. Beth
>yw eich barn chi?
>
>
>Judith Kaufmann
>Swyddog Prosiectau/Project Officer
>Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru
>(The Association of Welsh Translators and Interpreters)
>01248 371839
|