"Gyda llaw, enwau ydi Council a Tax," meddai John. "Nid oes elfen o
ansoddair yn agos i'r un o'r ddau".
Gwir y gair, ond nôl yn Rhagfyr 2001 fe dynnais sylw aelodau w-t-c at
ddatblygiad hynod yn iaith y Gogledd yn y cyswllt hwn:
"Rwy'n cofio Dr Enid Pierce Roberts yn tynnu sylw at dreiglad a oedd i'w
gael yn iaith y gogledd, sef 'y neuadd bentref', lle byddai pobl y de'n
dweud 'neuadd y pentref'. Hyn, mae'n debyg, sy'n peri i bobl sôn am 'y Bwrdd
Iaith' yn hytrach nag am 'Bwrdd yr Iaith', er y byddai'n amhosibl dweud 'Y
Bwrdd Iaith Gymraeg'. Ond nid rhesymeg yw sylfaen iaith: y syndod, efallai,
yw ei bod hi mor rhesymegol ag yw hi."
[Mae David wedi codi'r pwynt hwnnw tra bues i'n sgrifennu'r nodyn hwn!]
Mae'n anodd torri'r ddadl hon: a ddywedech chi "yr hen Dreth Gyngor felltith
'na" neu "hen Dreth felltith y Cyngor 'na" neu "hen Dreth y Cyngor felltith
'na"?
Byddwn i o blaid 'y Dreth Gyngor' am ei bod hi llawer haws plethu
ansoddeiriau i'r ffurf honno nag i'r ffurf 'Treth y Cyngor' - ond wedi dweud
hynny ai 'hwylustod i gyfieithwyr' yw'r maen prawf gorau?
Mae'n ddiddorol sylwi na wnaeth y Llywodraeth Dorïaidd ddim troi 'treth
incwm' yn 'dreth y llywodraeth' ... ond petai hi wedi gwneud hynny, a fyddem
wedi'i galw'r dreth honno'n 'y dreth lywodraeth' neu'n 'dreth y llywodraeth'
(er mai un o fil a mwy o drethi fyddai hi?). A wnaeth neb sôn am droi 'treth
y pen' yn 'y dreth ben' ... Nid cynnig ateb ydw i, wrth gwrs, ond codi
sgwarnogod!
Mewn cyfarfod â Bwrdd Safoni Termau Bwrdd yr Iaith rai misoedd yn ôl, gyda
llaw, 'treth y cyngor' oedd y ffurf a arddelwyd yn bendant gan aelodau'r
Bwrdd hwnnw (a oedd yn cynnwys cyfieithydd profiadol a arferai weithio ym
myd llywodraeth leol).
Berwyn
----- Original Message -----
From: "Puw, John" <[log in to unmask]>
To: "Berwyn Prys Jones" <[log in to unmask]>
Sent: Thursday, February 10, 2005 3:18 PM
Subject: ATB: Council Tax
Diolch bawb
Mae'r papur bellach wedi mynd at yr argraffwyr yn unol â dymuniad y swyddog
yn hytrach nag un ni!
Felly, ym mhump o chwe sir gogledd Cymru, bydd y cynghorau yn anfon papur
allan dan y teitl Treth y Cyngor neu Treth Cyngor (yn achos Gwynedd)
1995/96. O fewn y papur hwnnw, bydd taflen Awdurdod Heddlu Gogledd Cymru
dan y teitl Y Dreth Gyngor. Mae'r sefyllfa'n wirion bost ac er yr hyn a
ddywedodd Tim a David, rydan ni'n hollol anhapus gyda'r sefyllfa. Cawsom
sgwrs danllyd gyda'r penaethiaid cyllid sydd, diolch i'r nefoedd, yn Gymry
Cymraeg - roedden nhw yr un farn a ninnau ond yn mynnu hefyd bod yn rhaid
dilyn geiriad y Cynulliad. A dyna a wnaed. Gwae ni! Os ydych chi, gyda
llaw, yn byw yng Ngogledd Cymru ac yn derbyn un o'r rhain, peidiwch â'n beio
ni gyfieithwyr druan nad oes neb yn barod i wrando arnom ni!
Gyda llaw, enwau ydi Council a Tax. Nid oes elfen o ansoddair yn agos i'r un
o'r ddau.
John
-----Neges Wreiddiol-----/-----Original Message-----
Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and
vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran John Williams
cyfieithydd YMLL
Anfonwyd/Sent: 10 February 2005 14:59
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: Council Tax
Treth y Cyngor yw'r term a arferir gan Gyngor Wrecsam
Mr John D Williams
Ysgol Morgan Llwyd
Cyfieithydd Ysgol
Sir Wrecsam
______________ ______________ ______________ ______________ Sent via the
WCBC Schools Email system at ysgolmorganllwyd.wrexham.sch.uk
* * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * *
* * * * * *
This e-mail message and any attachments are confidential and intended solely
for the use of the individual or organisation to whom it is addressed. If
you are not the intended recipient and have received this e-mail in error,
any use, dissemination, forwarding, printing, or copying of it is strictly
prohibited and you are requested to contact the sender and delete the
material from any computer. Opinions, conclusions and other information in
this message that do not relate to the official business of Wrexham County
Borough Council shall be understood as neither given nor endorsed by it.
Mae'r neges e-bost hon, ac unrhyw ffeil sydd ynghlwm wrthi, yn gyfrinachol
ac fe'i bwriedir ar gyfer yr unigolyn neu'r sefydliad y cyfeiriwyd hi ato.
Os nad chi yw'r derbynnydd priodol ond eich bod wedi derbyn y neges e-bost
hon trwy gamgymeriad, gwaherddir ei defnyddio, ei lledaenu, ei hanfon
ymlaen, ei hargraffu a'i chopio a gofynnir i chi gysylltu a'r sawl a'i
hanfonodd a dileu'r deunydd o bob cyfrifiadur os gwelwch yn dda. Dealler
nad yw Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn rhoi na cyn cymeradwyo barn,
casgliadau a gwybodaeth arall sydd yn y neges hon nad yw'n ymwneud a'i
fusnes swyddogol.
* * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * *
* * * * * *
Ni ddylid trin e-bost ar y rhyngrwyd fel dull diogel o gyfathrebu. Mae
Heddlu Gogledd Cymru yn monitro'r holl negeseuon e-bost a drosglwyddir ar y
rhyngrwyd yn ogystal â'u cynnwys.
Dim ond er sylw'r sawl y'i cyfeiriwyd hi ato/ati y bwriedir y neges hon. Os
ydych yn derbyn y neges hon mewn camgymeriad, gadewch i'r sawl a'i gyrrodd
wybod a dilëwch hi oddi ar eich system. Gall defnyddio neu ddatgelu
cynnwys y neges hon heb ganiatâd fod yn anghyfreithlon. Efallai nad yw'r
farn a fynegir yn y ddogfen yn bolisi swyddogol. Diolch i chi am eich
cydweithrediad.
Heddlu Gogledd Cymru
Internet e-mail is not to be treated as a secure means of communication.
North Wales Police monitor all Internet e-mail activity and content.
This communication is intended for the addressee(s) only. Please notify the
sender if received in error and erase from your system. Unauthorised use or
disclosure of the content may be unlawful, Opinions expressed in this
document may not be official policy. Thank you for you co-operation.
North Wales Police
|