Newydd weld y drafodaeth hon. Mae Annes wedi cael pregeth ar hyn eisoes,
ond ga i'ch cynghori i *beidio* a defnyddio selotep i drwsio unrhyw lyfr.
Wrth sychu, mae'r tap yn gadael glud sych sy'n gwneud y papur yn frau ac
sy'n amhosibl cael gwared arno os bydd ar rywun eisiau ailrwymo'r llyfr
wedyn. Mae mathau eraill o dap (drutach) a ddefnyddir yn arbennig ar gyfer
trwsio llyfrau.
Mae gen i ffotograffau cynt a wedyn o rai copiau o'r Geiriadur mae Bruce
wedi'u trwsio, y maent yn sicr o fod yn gystadleuwyr cryf yn yr ornest hon,
ond well imi beidio ag enwi'r perchnogion!
Ann
----- Original Message -----
From: "annes" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Friday, January 14, 2005 12:08 PM
Subject: [spam-hx] ATB estate car
> Carwm ymgynnig am wobr y GyrA mwya rhacslyd. Pan oedd Sylvester yn gath
> fach mi welodd ei wyn ar y geiriadur yn arw iawn. Mi fyddai wrth ei fodd
yn
> cripio ac yn llarpio'r tudalenna (papur tena braf i'r dim at winadd
cath)..
> Mae llawer o'r tudalenna bellach yn glytwaith o ddarna man, wedi'u tynnu o
> geg Sylvester a'u smwddio a'u rhoi'n sownd efo selotep. Y llythyren c
> gafodd hi waetha. Mae conventicle hyd at corbicula wedi mynd i'r cwn a'r
> brain yn gyfan gwbwl. Mae llawer o fy llyfra eraill i wedi diodda difrod
> gan Whifflet (y llgodan fawr) ond doedd y geiriadur ddim yn ei filltir
> sgwar ynta trwy drugaredd.
>
> Annes
----------------------------------------------------------------------------
----
>
> ---
> Outgoing mail is certified Virus Free.
> Checked by AVG anti-virus system (http://www.grisoft.com).
> Version: 6.0.822 / Virus Database: 560 - Release Date: 22/12/04
>
|