Cytuno - amlygu dwi wastad yn ei ddefnyddio.
Blwyddyn Newydd Dda hefyd!
Catrin
----- Original Message -----
From: "Geraint Løvgreen" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Monday, January 03, 2005 11:41 AM
Subject: Re: highlighting
> "Lot o bethau hyll" - fel be yn benodol??
>
> Dwi'n gweld amlygu yn air llawer gwell nag "aroleuo" - gan ei fod yn air y
> gall pawb ei ddeall, a be ydach chi'n wneud ond amlygu'r testun?
> Mae malu cachu am enghreifftiau yn Google o 'highlight the problems' ac
> ati
> yn gwbwl amherthnasol i'r cwestiwn beth bynnag; ddaru neb gynnig 'amlygu'
> fel cyfieithiad yn yr achos hwnnw.
>
> Geraint
>
> (O .... a blwyddyn newydd dda !)
>
> ----- Original Message -----
> From: "Dafydd Tomos" <[log in to unmask]>
> To: <[log in to unmask]>
> Sent: Friday, December 31, 2004 3:18 PM
> Subject: Re: highlighting
>
>
>> > "Amlygu" sydd gan Microsoft yn fersiwn Cymraeg Word, ac os bydd y
> Microsoft
>> > Cymraeg yn lledu fe fydd eu dewis ffurfiau nhw yn dod yn ddylanwadol
> iawn
>> > wrth gwrs.
>>
>> Gobeithio ddim, achos mae na lot o bethau hyll ynddo.
>>
>> Efallai fod amlygu yn derm sydd wedi croesi o ddefnydd cyffredinol i
>> ddefnydd technegol (anghywir). Mae Google yn dangos nifer o
>> enghreifftiau lle mae rhywun wedi cyfieithu 'highlight the
>> problems/issues/opportunities' i 'amlygu' yn hytrach na dweud 'taflu
>> golau ar', 'datgelu', 'amlinellu', 'esbonio' neu unrhyw drosiad arall
>> sy'n gwneud synnwyr.
>
>
> --
> No virus found in this incoming message.
> Checked by AVG Anti-Virus.
> Version: 7.0.298 / Virus Database: 265.6.7 - Release Date: 12/30/2004
>
>
--
No virus found in this outgoing message.
Checked by AVG Anti-Virus.
Version: 7.0.298 / Virus Database: 265.6.7 - Release Date: 12/30/2004
|