Wedi darllen yr ymatebion, efallai fod elfennol braidd yn llac. Mae minimalaidd mewn cyd-destun cerddorol, i ateb cwestiwn Geraint, yn disgrifio'r hyn sy'n digwydd, neu ddim yn digwydd (yn dibynnu ar eich barn o'r math yma o gerddoriaeth) yn y darn cerddoriaeth.
'Dw i ddim yn gwybod digon am gelf gweledol i wybod os yw'r term minimalaidd yn disgrifio'r ddelwedd. Os ydi o, yna iawn. Yr unig fai oeddwn i'n ei weld oedd mai cyfres boenus o araf o ddatblygiadau yw'r ystyr mewn cerddoriaeth, ond delwedd syml mewn celf.
John
-----Neges Wreiddiol-----/-----Original Message-----
Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Catrin Beard
Anfonwyd/Sent: 20 January 2005 12:43
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: Re: Minimal Art
Mae 'celfyddyd elfennol' yn awgrymu naifrwydd celfyddydol a chelfyddyd eithaf cyntefig, sy'n gwbl groes i'r hyn sy'n cael ei awgrymu gan 'minimal art', sydd, dybiwn i, yn hoffi meddwl amdani'i hun fel celfyddyd soffistigedig ac uchelael.
'Minmalaidd' neu 'minimal' fyddwn i'n ei ffafrio yn bendant
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]]On Behalf Of John Puw
Sent: 20 January 2005 12:02
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Minimal Art
Minimaliaeth/minimalaidd yn sicr mewn cerddoriaeth - lle mae cyfansoddwr yn defnyddio un syniad rhythmig byr neu gasgliad o nodau (prin y gellir galw'r mwyafrif yn alawon), ac yna'n ailadrodd y peth hyd syrffed gan newid yn raddol iawn iawn iawn. Mae plant heddiw'n hoff o'r gair boring, gafodd ei fathu gan y bobl oedd yn gorfod gwrando ar John Adams, Michael Nyman a'u tebyg. Wedi dweud hynny, mae 'na rywbeth hypnotig am y gerddoriaeth - tebyg iawn i'r boi yn Little Britain sy'n aml yn gwneud dim mwy na thaflu llwch i lygaid ei gynulleudfa!
Ond mae'r term mewn cerddoriaeth yn disgrifio cyfres o newidiadau sy'n gallu digwydd dros fisoedd (oce, hyd at awr, ond ydych wedi gwrando arnyn nhw erioed?). Mewn celf, byddwn yn meddwl fod y term yn cyfeirio at un llun syml, elfennol. 'Dw i'n gwybod mai'r un gair sydd amdanynt yn Saesneg, ond prin fod ystyr y gair yn golygu'r un peth yn y ddau gelfyddyd. Byddai'n well gen i weld rhywbeth fel Celf Elfennol, fy hun - fe fyddai'r prynwr yn gwybod be mae o neu hi'n ei brynu o flaen llaw o leiaf.
----- Original Message -----
From: "H.K.Smith" <[log in to unmask]>
To: "John Puw" <[log in to unmask]>
Sent: Thursday, January 20, 2005 11:32 AM
Subject: Re: Minimal Art
Gyda llaw, ym myd cerddoriaeth, 'minimaliaeth' a 'cerddoriaeth finimalaidd' yw'r termau cydnabyddedig am 'minimalism' - term a fathwyd yn wreiddiol, rwy'n credu, gan Michael Nyman. Gan fod y gair yng nghyd-destun celfyddyd ag ystyr gyffelyb, wela' i ddim byd o'i le ar ddefnyddio'r un term.
Helen
Ysgrifennodd Sian Roberts:
> Rwy?n cytuno â Catrin am ?lleiafsymiol?.
>
> Beth am ?Celfyddyd Finimalaidd? ? neu a ydi hynny?n wahanol?
>
>
>
> Siân
>
>
>
> -----Original Message-----
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and
> vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of
> Catrin Alun
> Sent: 20 January 2005 10:57
> To: [log in to unmask]
> Subject: Re: Minimal Art
>
>
>
> Mae 'lleiafsymiol' yn gwneud i mi feddwl am rifau yn hytrach na chelf.
> Mae 'minimal' yn cael ei gynnig yn Cysgeir am 'minimal'! Ac mae
> minimeiddio yn eitha cyfarwydd am wn i.
>
>
>
> Catrin
>
> ----- Original Message -----
>
> From: Geraint Løvgreen <mailto:[log in to unmask]>
>
> To: [log in to unmask]
> <mailto:[log in to unmask]>
>
> Sent: Thursday, January 20, 2005 10:54 AM
>
> Subject: Minimal Art
>
>
>
> Dwi'n gweld "minimol" yn y Termiadur, ond mae "Celfyddyd Finimol" yn
> edrych yn chwithig iawn i fi. Fase "Celfyddyd Leiafsymiol" neu
> rywbeth tebyg yn dderbyniol?
>
> Geraint
>
>
> ----------------------------------------------------------------------
--
>
> No virus found in this incoming message.
> Checked by AVG Anti-Virus.
> Version: 7.0.300 / Virus Database: 265.7.0 - Release Date:
> 1/17/2005
>
--
H.K.Smith (Helen) [log in to unmask]
(Cyfieithydd/Translator) [log in to unmask]
* * * *
* * *
* * Cathod/Cats
* * Pianos
* *
*
Nid yw'r e-bost hwn nag unrhyw ffeiliau a drosglwyddir gydag ef o angenrheidrwydd yn adlewyrchu barn Heddlu Gogledd Cymru.
Mae'r wybodaeth sydd yn y ddogfen hon yn gyfrinachol. Fe all fod yn gyfreithiol freintiedig.
Bwriedir yr e-bost ar gyfer y person neu'r sefydliad a enwir uchod. Os derbyniwyd yr e-bost hwn trwy gamgymeriad,
dylid hysbysu'r anfonydd a dileu'r e-bost oddi ar eich system os gwelwch yn dda.
Os mai nid i chi y bwriadwyd ef ac nid chi yw'r cyflogwr na'r asiant sy'n gyfrifol am roi'r e-bost i'r derbynnydd bwriadedig,
fe'ch hysbysir gan hyn na chaniateir i chi ddefnyddio, adolygu, lledaenu, dosbarthu na chopio'r e-bost ar unrhyw gyfrif.
Fe all fod gwneud hynny yn anghyfreithlon.
This e-mail and any files transmitted with it are not necessarily the view of North Wales Police.
The information contained in this communication is confidential. It may be legally privileged.
It is intended only for the person or entity named above.
If you have received this e-mail in error please notify originator and erase this e-mail from your system.
If you are not the intended recipient or the employer or agent responsible for delivering it to the
intended recipient, you are hereby notified that any use, review, dissemination, distribution or copying
of the e-mail is strictly prohibited. To do so may be unlawful.
|