Ond onid oes gwahaniaeth rhwng "elementary" neu "rudimentary art" â
"minimal art" - y pris a delir am y darn yn un o'r prif wahaniaethau?
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of John Puw
Sent: 20 January 2005 12:02
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Minimal Art
Minimaliaeth/minimalaidd yn sicr mewn cerddoriaeth - lle mae cyfansoddwr
yn
defnyddio un syniad rhythmig byr neu gasgliad o nodau (prin y gellir
galw'r
mwyafrif yn alawon), ac yna'n ailadrodd y peth hyd syrffed gan newid yn
raddol iawn iawn iawn. Mae plant heddiw'n hoff o'r gair boring, gafodd
ei
fathu gan y bobl oedd yn gorfod gwrando ar John Adams, Michael Nyman a'u
tebyg. Wedi dweud hynny, mae 'na rywbeth hypnotig am y gerddoriaeth -
tebyg
iawn i'r boi yn Little Britain sy'n aml yn gwneud dim mwy na thaflu
llwch i
lygaid ei gynulleudfa!
Ond mae'r term mewn cerddoriaeth yn disgrifio cyfres o newidiadau sy'n
gallu
digwydd dros fisoedd (oce, hyd at awr, ond ydych wedi gwrando arnyn nhw
erioed?). Mewn celf, byddwn yn meddwl fod y term yn cyfeirio at un llun
syml, elfennol. 'Dw i'n gwybod mai'r un gair sydd amdanynt yn Saesneg,
ond
prin fod ystyr y gair yn golygu'r un peth yn y ddau gelfyddyd. Byddai'n
well gen i weld rhywbeth fel Celf Elfennol, fy hun - fe fyddai'r prynwr
yn
gwybod be mae o neu hi'n ei brynu o flaen llaw o leiaf.
----- Original Message -----
From: "H.K.Smith" <[log in to unmask]>
To: "John Puw" <[log in to unmask]>
Sent: Thursday, January 20, 2005 11:32 AM
Subject: Re: Minimal Art
Gyda llaw, ym myd cerddoriaeth, 'minimaliaeth' a 'cerddoriaeth
finimalaidd' yw'r termau cydnabyddedig am 'minimalism' - term a fathwyd
yn wreiddiol, rwy'n credu, gan Michael Nyman. Gan fod y gair yng
nghyd-destun celfyddyd ag ystyr gyffelyb, wela' i ddim byd o'i le ar
ddefnyddio'r un term.
Helen
Ysgrifennodd Sian Roberts:
> Rwy?n cytuno â Catrin am ?lleiafsymiol?.
>
> Beth am ?Celfyddyd Finimalaidd? ? neu a ydi hynny?n wahanol?
>
>
>
> Siân
>
>
>
> -----Original Message-----
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and
vocabulary
> [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Catrin Alun
> Sent: 20 January 2005 10:57
> To: [log in to unmask]
> Subject: Re: Minimal Art
>
>
>
> Mae 'lleiafsymiol' yn gwneud i mi feddwl am rifau yn hytrach na chelf.
> Mae 'minimal' yn cael ei gynnig yn Cysgeir am 'minimal'! Ac mae
> minimeiddio yn eitha cyfarwydd am wn i.
>
>
>
> Catrin
>
> ----- Original Message -----
>
> From: Geraint Løvgreen <mailto:[log in to unmask]>
>
> To: [log in to unmask]
> <mailto:[log in to unmask]>
>
> Sent: Thursday, January 20, 2005 10:54 AM
>
> Subject: Minimal Art
>
>
>
> Dwi'n gweld "minimol" yn y Termiadur, ond mae "Celfyddyd Finimol"
yn
> edrych yn chwithig iawn i fi. Fase "Celfyddyd Leiafsymiol" neu
> rywbeth tebyg yn dderbyniol?
>
> Geraint
>
>
----------------------------------------------------------------------
--
>
> No virus found in this incoming message.
> Checked by AVG Anti-Virus.
> Version: 7.0.300 / Virus Database: 265.7.0 - Release Date:
1/17/2005
>
--
H.K.Smith (Helen) [log in to unmask]
(Cyfieithydd/Translator) [log in to unmask]
* * * *
* * *
* * Cathod/Cats
* * Pianos
* *
*
|