Mae 'commodity' yn wahanol i'r syniad o nwyddau yn gyffredinol (sef
cynnyrch neu wasanaeth). Rhywbeth sydd yn cael ei brynu a'i werthu yn
rhwydd, heb i neb orfod poeni gormod am ei nodweddau arbennig, e.e. olew,
cemegau cyffredin. Mae 'na 'commodities markets' lle mae prynu a gwerthu
pethau fel metalau yn mynd ymlaen heb i neb orfod gofyn beth yw manteision
y nwyddau arbennig. I raddau, mae cyfrifiaduron ar y ffordd i fynd
yn 'commodities' y dyddiau hyn, ond ychydig iawn o flynyddoedd yn ol
roeddynt yn gynnyrch cymhleth oedd yn rhaid edrych arnynt yn fanwl a
dyfalu beth oeddynt a sut oedd un yn cymharu a'r llall ayyb. Fel rheol mae
gwasanaethau yn gwahaniaethu eu hunain mewn rhyw ffordd (pris; lefel y
gwasanaeth ayyb) felly dwi'm yn credu y gall y rhain fod yn 'commodities'
fel rheol (i fod yn bedantig).
Chlywais i erioed air Cymraeg am 'commodity', a 'marchnad nwyddau' mae
Cysgeir yn ei ddefnyddio am 'commodities market', os nad oes air derbyniol
mi fyddwn yn awgrymu dewis ansoddair priodol (ee nwyddau cyffredin
efallai) - os nad yw'r testun yn defnyddio'r term mewn ffordd lac wrth
gwrs.
Dafydd
On Fri, 21 Jan 2005 15:34:51 -0000, Pennawd Cyf. <[log in to unmask]>
wrote:
>Ym mhob geiriadur a geirfa dwi wedi'u gweld defnyddir 'nwydd/nwyddau'
am 'commodity/commodities'.
>
>Ond dwi angen gair i gyfleu'r diffiniad 'something that can be bought and
sold'. Mae un frawddeg yn y testun yn dweud yn benodol "A supply table
shows the goods and services (commodities) produced..." ac mae'r
gair 'commodities' yn codi dro ar ôl tro.
>
>Oes rhaid i mi roi 'nwyddau a gwasanaethau' bob tro? Neu a oes 'na air
arall athrylith?
|