This is the Welsh version of Current Awareness 45.
Blwyddyn Newydd Dda.
CyMAL
*** Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau i Cynllun Grantiau Archifau CyMAL
2005/6 a'r Cynllun Grantiau Annog Addysg 2005/6 yw Gwener 21 Ionawr. ***
*** Y dyddiad olaf ar gyfer hawlio grantiau ar gyfer Cynllun Grantiau
Archifau CyMAL 2004/5 yw 31 Ionawr. ***
Os oes unrhyw un yn rhagweld unrhyw tanwariant yn eu prosiectau Grantiau
Archifau CyMAL 2004/5 (e.e. offer yn rhatach na thybid) â ellwch adael i mi
wybod (e-bostiwch [log in to unmask]) rhag ofn y bydd unrhyw
bosibilrwydd o ail-gyfeirio arian i brosiectau eraill. Diolch.
Mae Liz Bowerman wedi cychwyn fel Cynghorydd Casgliadasu yn CyMAL. Mae Liz
wedi ei hyfforddi mewn cadwraeth archifol a llyfrau yn Llyfrgell
Genedlaethol Cymru. Mae'n cadwraethwr archifol achrededig ac mae wedi bod
yn hyfforddwraig ar Gynllun Hyfforddiant Cadwraethwyr Cymdeithas yr
Archifyddion. Am y pum mlynedd diwethaf mae wedi bod yn gweithio i
Ymddiriedolaeth Treftadaeth Jersey, yn sefydlu gweithdy cadwraeth archifol,
yn sefydlu gwasanaeth cadwraeth ac yn hyfforddi cadwraethwr. Liz yw'r
person i gysylltu efo eich cwestiynau am gasgliadau a chadwraeth.
Llinell uniongyrchol: 01970 610226 / [log in to unmask]
Rhaglen Hyfforddiant CyMAL: Gall staff amgueddfeydd, archifau a
llyfrgelloedd Cymru fanteisio ar y digwyddiadau hyn ac ni chodir tâl
amdanynt. Os hoffech weld ein Calendr Hyfforddiant, a defnyddio'r
cyfleuster archebu ar-lein, ymwelwch â
http://www.cymal.cymru.gov.uk/event/index.html
ARCHIFAU
Mae archifyddion Cymraeg yn cael eu gwahodd i ddiwrnod cyntaf Cynhadledd
Llyfrgell & Gwybodaeth Cymru yn Llandrindod, a gynhelir ar 3 - 4 Mawrth
2005. Mae siaradwyr wedi eu cadarnhau'n barod yn cynnwys Alun Pugh, AC, Y
Gweinidog dros Ddiwylliant, y Gymraeg a Chwaraeon; Deborah Tritton, Rheolwr
Gwasanaeth Archifau, Archifdy Cernyw a Chymrawd Arweinyddiaeth Clore, yn
siarad am rhai o'r themau a phrofiadau o'r Rhaglen Arweinyddiaeth Clore; a
Iwan Jones, Pennaeth yr Adran Gofal Casgliadau yn Llyfrgell Genedlaethol
Cymru yn siarad am y prosiect Newsplan. Rhagor o fanylion i ddilyn yn fuan.
Yr Archifau Cenedlaethol: 'Custody of digital records: Consultation on new
custodial policy'
(http://www.nationalarchives.gov.uk/recordsmanagement/custody/default.htm)
Mae gan Archifdy Sir Powys erthygl byr am ei arddangosfa deithiol am
gysylltiadau awduron enwog efo Powys yn rhifyn Ionawr o ARC (tudalen 17).
Mae Archifdy Sir Powys ar gau ar gyfer cymeryd stoc blynyddol rhwng 31
Ionawr - 11 Chwefror 2005.
CYLLID
Mae'r Cyngor Cenedlaethol ar Archifau yn rhedeg gweithdai diwrnod yn
Chwefror a Mawrth i gynorthwyo ymgeiswyr potensial ar gyfer y cynllun grant
'Eich Treftadaeth' Cronfa Dreftadaeth y Loteri. Mae'r cynllun yma ar gyfer
grantiau rhwng £5,000-£50,000. Cyfyngir llefydd i 10 y gweithdy ac mae tâl
o £25 am ginio, lluniaeth a costau gweinyddol. Gweler
http://www.ncaonline.org.uk/lottery-lottery_workshops.html am ragor o
fanylion.
Y dyddiad cau nesaf ar gyfer ceisiadau i'r Ymddiriedolaeth Cenedlaethol
Cadwraeth Llawysgrifau yw 1 Ebrill. Gweler
http://www.nationalarchives.gov.uk/preservation/trust/ am ragor o fanylion.
Cynlluniau Rhanbarthol Sefydliad Lloyds TSB 2005: Cynllun Cymru:
http://www.lloydstsbfoundations.org.uk/regions/grant_making_plans_2005.html#
8
Sefydliad Lloyds TSB: 'Guidelines for Charities who are Applying for a Grant
2005' (http://www.lloydstsbfoundations.org.uk/guidelines.html)
MYNEDIAD, ADDYSG A CHYNHWYSIANT CYMDEITHASOL
Gan NIACE:
* Newyddion NIACE: Hyrwyddo Addysg i Oedolion yng Nghymru, rhifyn 3:
Rhagfyr 2004:
http://www.capellcreative.co.uk/clients/niace/ezine/issue3.html. Manylion o
digwyddiadau, grantiau ac ymgyrchoedd.
* Gwobrau Pencampwyr Dysgu:
A yw eich cyflwyniadau dysgu chi wedi newid bywyd neu wedi ysbrydoli? A
ydych yn adnabod rhywun a wnaeth wahaniaeth i'w bywyd drwy ddysgu?
Gwobrau Gweithredu Cymunedol:
A ydych yn cymryd rhan mewn prosiect er budd eich cymuned? A ydych chi'n
neu'ch grwp wedi gwneud vyfraniad gweithgar i adfywio lleol?
Gwobrau Mentoriaid a Thiwtoriaid:
A ydych chi'n adnabod mentor neu diwtor a aeth yr ail filltir i'ch help i
ddysgu neu sydd wedi gorfod goresgyn rhwystrau sylweddol i wneud hynny?
I gael ffurflen enwebu ar gyfer Gwobrau Pencampwyr Dysgu a Gweithredu
Cymunedol gweler:
http://www.niace.org.uk/niacedc/ALW/2005/Awards.htm
I gael ffurflen enwebu ar gyfer Gwobrau Mentoriaid a Thiwtoriaid gweler:
http://www.niace.org.uk/niacedc/Signupnow/Competitions/Default.htm
I gael ffurflen enwebu ar gyfer Grantiau Hyrwyddo gweler:
http://www.niace.org.uk/niacedc/ALW/competitions/Default.htm#LPGrants
'North Wales communities are being safeguarded for the future thanks to
money from The Big Lottery Fund: Ruthin in Denbighshire and Abergynolwyn in
Gwynedd are currently reaping the benefits from the Fund's 'Transforming
Your Space' programme, which has allocated at least £100,000 to each local
authority in Wales to spend on one project that shows the community how to
improve the quality of their lives, whilst protecting the planet's
resources, now and in the future.'
(http://www.biglotteryfund.org.uk/newsroom/release.aspx?prId=764)
CADWRAETH & CHADWRAETH DDIGIDOL
Gwefan y Professional Accreditation of Conservator-Restorers (PACR)
(http://www.pacr.org.uk/)
Cofrestr Cadwraeth UKIC: http://www.conservationregister.com/
'One Last Spin: Floppy Disks Head Toward Retirement'
(http://www.rlg.org/en/page.php?Page_ID=20492#article4)
TECHNOLEG GWYBODAETH & DDIGIDO
Rhaglen Hyfforddiant y Technical Advisory Service for Images (TASI):
http://www.tasi.ac.uk/training/training.html
RHYDDID GWYBODAETH & GWARCHOD DATA
Gwefan Rhyddid Gwybodaeth yr Archifau Cenedlaethol:
http://www.nationalarchives.gov.uk/policy/foi/
Yr Archifau Cenedlaethol: 'Freedom of Information Act 2000: Procedures and
Guidance Relating to Public Records Transferred to and Held by Places of
Deposit' (http://www.nationalarchives.gov.uk/policy/foi/pdf/foi_guide.pdf)
'Freedom of Information Guide Launched Online: CILIP: the Chartered
Institute of Library and Information Professionals has launched a guide to
Freedom of Information resources on the web.'
(http://www.managinginformation.com/news/content_show_full.php?id=3412)
Gweler http://www.cilip.org.uk/professionalguidance/foi/webresources am
adnoddau Rhyddid Gwybodaeth CILIP.
Cylchlythyr Deddf Gwybodaeth ACT NOW, Ionawr 2005
(http://www.actnow.org.uk/currentnl.pdf)
Eluned Jones
Cynghorydd Datblygu Archifau / Archives Development Adviser
CyMAL: Amgueddfeydd Archifau a Llyfrgelloedd Cymru / CyMAL: Museums Archives
and Libraries Wales
Llywodraeth Cynulliad Cymru / Welsh Assembly Government
Uned 10 Parc Gwyddoniaeth / Unit 10 Science Park
ABERYSTWYTH
SY23 3AH
Ffôn / Tel: 01970 610237
E-bost / E-mail: [log in to unmask]
Dylai'r datganiadau neu'r sylwadau uchod gael eu trin fel rhai personol ac
nid o reidrwydd fel datganiadau neu sylwadau gan Gynulliad Cenedlaethol
Cymru, unrhyw ran ohono neu unrhyw gorff sy'n gysylltiedig ag ef.
Any of the statements or comments made above should be regarded as personal
and not necessarily those of the National Assembly for Wales, any
constituent part or connected body.
The original of this email was scanned for viruses by the Government Secure Intranet (GSi) virus scanning service supplied exclusively by Energis in partnership with MessageLabs.
On leaving the GSi this email was certified virus-free.
Mae fersiwn wreiddiol y neges e-bost hon wedi'i sganio am feirysau gan wasanaeth sganio feirysau Mewnrwyd Ddiogel y Llywodraeth (GSi) a ddarperir yn arbennig gan Energis mewn partneriaeth â MessageLabs.
Wrth i'r neges e-bost hon adael GSi, ardystiwyd nad oedd firws ynddi.
|