'Llacharliwio' ddefnyddid bob amser yng Nghyngor Gwynedd i ddisgrifio dangos
gair mewn lliw gwahanol ar bapru neu ar sgrin.
'Duo' a ddefnyddid i ddisgrifio dewis geiriau ar y sgrin ar gyfer eu dileu
ayb.
Roedd y geiriau'n cael eu harddel ar lafar yn ein gwaith bob dydd yn y
Gwasanaeth Cymdeithasol beth bynnag.
Sue
Sue
----- Original Message -----
From: "Gwynallt Bowen" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Tuesday, January 04, 2005 2:18 PM
Subject: ATB: highlighting
> Byddaf y defnyddio pin ffelt melyn i uwcholeuo testun yn Word, neu
> defnyddio
> offer priodpol yn Word i'w uwcholeuo
> Gwynallt
>
> -----Neges Wreiddiol-----/-----Original Message-----
> Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and
> vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Dafydd
> Tomos
> Anfonwyd/Sent: 04 January 2005 14:08
> At/To: [log in to unmask]
> Pwnc/Subject: Re: highlighting
>
>> Llynedd ysgrifennais, mewn ffordd amaturaidd iawn, ychydig gyfarwyddiadau
> ar
>> weithio gyda ffeiliau "Word" ar gyfer ein dosbarth cyfieithu. Cefais
> dipyn
>> o drafferth wrth ddisgrifio "highlighting/selecting" darn o destun, gan
>> newid o "dewis" i "oleuo" (dylwyn fod wedi defnyddio "aroleuo" mae'n
> debyg)
>> i "amlygu".
>
> Wps. Beth o'n i'n trio ddweud oedd fod e ddim yn syniad da
> cyfieithu termau technegol drwy ddefnyddio geiriau 'cyfarwydd'
> o feysydd eraill yn hytrach na meddwl am yr ystyr a throsi hynny.
>
> Mae'n golygu yn aml iawn fod geiriau yn cael ei gor-lwytho gyda
> 5 neu 6 gwahanol ystyr - sydd ddim yn eu gwneud yn fwy dealladwy.
>
> Mae yna ffasiwn mewn dogfennau corfforaethol seisnig i or-ddefnyddio
> geiriau fel 'highlight', a dyw e ddim yn help pan fod hynny yn cael ei
> drosi bob tro i 'amlygu' pan fod (mewn rhai achosion) 'dangos',
> 'datgelu', 'datguddio' ayyb yn well, ond dim ond un enghraifft yw hyn.
>
> Wrth gwrs fod cyfieithwyr yn gyfarwydd a geiriau fel 'amlygu'
> ond dwi'n eitha siwr fod e yr un mor anghyfarwydd, i siaradwr
> Cymraeg cyffredin, ac 'aroleuo'.
>
> Mi roedd y cyfieithiad Cymraeg gwreiddiol o Google (gan Fwrdd yr
> Iaith, neu pwy bynnag wnaethon nhw dalu i gwneud y gwaith) yn
> defnyddio 'aroleuo' a mae'n amlwg fod nifer o bobl wedi gweld y gair
> yma yn Google a'i ddefnyddio yn eu dogfennau eu hunain. Mae hyn yn
> dangos y perygl o ddefnyddio cyfiethiad 'poblogaidd' (yn absenoldeb
> unrhyw eiriadur termau).
>
> Efallai fod pwy bynnag a ddewisodd 'aroleuo' wedi pigo y gair cynta
> welon nhw yn y geiriadur. Fel mae GyA yn awgrymu, mae na rywun
> wedi dyfeisio'r gair i olygu 'highlights mewn gwallt'.
>
> Fel mae'n digwydd, wnes i newid gysoni Google i ddefnyddio 'amlygu'
> ymhobman tua 6 mis yn ol, ond mae'n dal i ddefnyddio aroleuo ar y
> wefan am rhyw reswm - mae nhw'n araf yn derbyn unrhyw gywiriadau.
>
>
> --
> No virus found in this incoming message.
> Checked by AVG Anti-Virus.
> Version: 7.0.298 / Virus Database: 265.6.7 - Release Date: 30/12/2004
>
>
--
No virus found in this outgoing message.
Checked by AVG Anti-Virus.
Version: 7.0.298 / Virus Database: 265.6.7 - Release Date: 30/12/2004
|