Rwy'n meddwl mai'r hyn sydd gan Wil mewn golwg yw enw ar gyfer y gynhadledd
a fydd yn cael ei ddefnyddio yn Saesneg a Chymraeg yn hytrach na chyfieitiad
o 'e-crime'. E.e. mae'r Sefydliad Tai Siartredig yn cynnal cynhadledd
flynyddol ac yn ei galw yn 'Tai Cymru' - does dim enw arall yn Saesneg. Ydw
i'n iawn? (Sori, ond alla i ddim cynnig unrhyw beth!)
Garmon
Garmon Davies
Ewrolingo
+44 (0) 1656 668603
www.ewrolingo.co.uk
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Dafydd Tomos
Sent: 15 December 2004 11:41
To: [log in to unmask]
Subject: Re: E-crime
Mi ydych chi gyd yn syrthio i'r trap o greu termau rwtsh
fan hyn - trosedd yw trosedd os yw'n digwydd ar y stryd
neu ar y we.
Yn bersonol, fasen i'n osgoi unrhyw e-nonsens a dweud
'trosedd ar y rhyngrwyd' (neu, ychydig yn fwy eang
'trosedd technolegol' neu 'trosedd electronig').
Wrth gwrs dyw hwn ddim yn cynnig term bachog i'r marchnatwyr,
ond mae yna ormod o blygu i'r bobl yma'n barod.
|