Mi ydych chi gyd yn syrthio i'r trap o greu termau rwtsh
fan hyn - trosedd yw trosedd os yw'n digwydd ar y stryd
neu ar y we.
Yn bersonol, fasen i'n osgoi unrhyw e-nonsens a dweud
'trosedd ar y rhyngrwyd' (neu, ychydig yn fwy eang
'trosedd technolegol' neu 'trosedd electronig').
Wrth gwrs dyw hwn ddim yn cynnig term bachog i'r marchnatwyr,
ond mae yna ormod o blygu i'r bobl yma'n barod.
|