Yn hollol.
Mae Gwgl yn canfod dros 14,000 o enghreifftiau pan chwiliwch am Blog Cymraeg
(heb eu rhoi mewn dyfynnodau - dim ond rhoi'r gair 'Cymraeg' er mwyn osgoi
cael pob blog Saesneg) a 299 o enghreifftiau o 'Gweflog'. Ac mae dros 3,000
o enghreifftiau o Gwelog (ddim i gyd yn cyfeirio at Flogiau ar y We, ond
eto)
Blog neu welog amdani fyddwn i'n meddwl
Dolig Llawen ichi i gyd
Geraint
----- Original Message -----
From: "Pennawd Cyf." <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Thursday, December 23, 2004 10:24 AM
Subject: Re: weblog / blog
> O le mae'r 'f' yn 'gweflog' yn dod? Tarddiad y Saesneg yw 'web' + 'log' =
> cofnod manwl o daith neu ddigwyddiadau. O gyfieithu 'web' a chadw'r ail
> elfen yn Saesneg, 'gwe-log'a geir, nid 'gweflog'.
>
>
>
> ----- Original Message -----
> From: "Muiris Mag Ualghairg" <[log in to unmask]>
> To: <[log in to unmask]>
> Sent: Thursday, December 23, 2004 12:03 AM
> Subject: Re: weblog / blog
>
>
> > Ac eto ... Mae Nic Davis yn defnyddio 'Gweflog' ar http://morfablog.com/
> > a Chymdeithas yr iaith http://cymdeithas.com/cat_gweflog.html
> > a'r wefan hon sy'n disgrifo beth yw 'Gweflog'
> > http://www.byteshift.de/web-design-Gweflog-cy
> > a wicipedia http://cy.wikipedia.org/wiki/Wicipedia:Portal_Cymunedol
> >
> > a phrosiect Cynghanedd - Adran Cyfathrebu a'r Cyfryngau Prifysgol
Bangor
> > http://www.bangor.ac.uk/cyf/meimac/
> >
> > "Gweflog prosiect arloesol sy'n archwilio'r posibliadau a gynigir gan y
> > berthynas rhwng y dechnoleg newydd a hen grefft cerdd dafod. Cyd-lynydd
y
> > prosiect, sydd wedi'i leoli yn Adran Cyfathrebu a'r Cyfryngau Prifysgol
> > Bangor yw'r prifardd Meirion MacIntyre Huws. Bydd y prosiect yn cael ei
> > ddiweddaru drwy gyfrwng y blog yma."
> >
> > a gweflog Aled R Jones -
> http://aledrjones.me.uk/blog/2004_04_01_arcif.html
> > "Hwre! Dwi di cael band llydan felly dyma gyfle gwych i ail-afael ar y
> > gweflog ma..."
> > a gweflog
> > http://castell-tywod.blogspot.com/2004_09_01_castell-tywod_archive.html
> "Dw
> > i'n ceisio cadw gweflog yn Gymraeg er mwyn i fi ymarfer a gwella."
> > ac ....
> >
> > Felly, byddwn i'n awgrymu defnyddio 'gweflog'.
> >
|