Ceir 'gross motor movement' a fine motor movement' yn Termau Seicoleg
newydd Adran Seicoleg Bangor ar y cyd gyda Chanolfan Bedwyr sydd yn y
wasg ar hyn o bryd (sori, methu ymatal rhag y 'plyg' sydyn!)
Diffinir y naill fel 'Unrhyw symudiad mawr gan y cyhyrau pan fo nerth yn
bwysig.' a'r Gymraeg sy'n cyfateb yw 'symudiad echddygol bras'. Diffinir
y llall fel 'Symudiad bach manwl gan y cyhyrau pan fo angen rheolaeth
gywrain.' ac yn Gymraeg rhoddir 'symudiad echddygol manwl'.
Sgiliau echddygol manwl/bras plant?
Delyth
Ysgrifennodd Cathrin Alwen:
> Unrhyw gynigion?
> Diolch ymlaen llaw
> Cathrin
|