O le mae'r 'f' yn 'gweflog' yn dod? Tarddiad y Saesneg yw 'web' + 'log' =
cofnod manwl o daith neu ddigwyddiadau. O gyfieithu 'web' a chadw'r ail
elfen yn Saesneg, 'gwe-log'a geir, nid 'gweflog'.
----- Original Message -----
From: "Muiris Mag Ualghairg" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Thursday, December 23, 2004 12:03 AM
Subject: Re: weblog / blog
> Ac eto ... Mae Nic Davis yn defnyddio 'Gweflog' ar http://morfablog.com/
> a Chymdeithas yr iaith http://cymdeithas.com/cat_gweflog.html
> a'r wefan hon sy'n disgrifo beth yw 'Gweflog'
> http://www.byteshift.de/web-design-Gweflog-cy
> a wicipedia http://cy.wikipedia.org/wiki/Wicipedia:Portal_Cymunedol
>
> a phrosiect Cynghanedd - Adran Cyfathrebu a'r Cyfryngau Prifysgol Bangor
> http://www.bangor.ac.uk/cyf/meimac/
>
> "Gweflog prosiect arloesol sy'n archwilio'r posibliadau a gynigir gan y
> berthynas rhwng y dechnoleg newydd a hen grefft cerdd dafod. Cyd-lynydd y
> prosiect, sydd wedi'i leoli yn Adran Cyfathrebu a'r Cyfryngau Prifysgol
> Bangor yw'r prifardd Meirion MacIntyre Huws. Bydd y prosiect yn cael ei
> ddiweddaru drwy gyfrwng y blog yma."
>
> a gweflog Aled R Jones -
http://aledrjones.me.uk/blog/2004_04_01_arcif.html
> "Hwre! Dwi di cael band llydan felly dyma gyfle gwych i ail-afael ar y
> gweflog ma..."
> a gweflog
> http://castell-tywod.blogspot.com/2004_09_01_castell-tywod_archive.html
"Dw
> i'n ceisio cadw gweflog yn Gymraeg er mwyn i fi ymarfer a gwella."
> ac ....
>
> Felly, byddwn i'n awgrymu defnyddio 'gweflog'.
>
|