Dwy ddim yn credu bod modd cyfiawnhau "dysgu o fewn y sector".
Gyda'r "approach" y mae'r disgrifiad "sector-leading" yn perthyn. Hynny yw,
mae'r coleg yn brolio mai eu ffordd nhw o ymdrin â gwaith dysgu yw'r ffordd
orau yn eu sector nhw (sef sector addysg bellach neu sector addysg uwch,
mae'n debyg).
Mae ffurfiau tebyg yn ddigon cyffredin, e.e. "Cardiff City's 1927 FA
Cup-winning team", "famous sword-swallowing act involved in tragic
back-slapping accident", ac efallai y bydd angen ymdopi â phob un yn ei
gyd-destun unigol ei hun.
Mae'r enghraifft yma'n dibynnu wrth gwrs ar weddill y frawddeg, ond fe allai
fod yn rhywbeth fel hyn...
"Mae ffordd y coleg o ymdrin â dysgu, sy'n arwain y sector, yn ddigon
gwantan mewn gwirionedd, ond fyddai'r coleg byth yn cyfaddef hynny yn yr
adroddiad yma."
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]]On Behalf Of Dafydd Lewis
Sent: 07 December 2004 00:32
To: David Bullock
Subject: Re: Sector-leading
"...ffordd flaenllaw'r Coleg o ymdrin a dysgu o fewn y sector".
Dafydd
Mon, 6 Dec 2004 18:37:12 +0100, Non Lewis <[log in to unmask]> wrote:
>Oes yna derm cydnabyddedig am sector-learning?
>the College’s sector-leading approach to learning.
>Diolch ymlaen llaw
>
>--
>
>Whatever you Wanadoo:
>http://www.wanadoo.co.uk/time/
>
>This email has been checked for most known viruses - find out more at:
http://www.wanadoo.co.uk/help/id/7098.htm
|