Mae trafodaeth hir a manwl wedi bod ar y term hwn ym Mhwyllgor Termau
Byrddau Iechyd Lleol Gogledd Cymru.
Ystyr 'primary care' yw'r gofal sy'n cael ei roi i gleifion yn y
feddygfa leol. Mae'n cynnwys gwasanaethau eithaf soffistigedig erbyn hyn
gan gynnwys man-lawdriniaethau.
Os na ellir trin claf dan ofal y feddygfa, mae'n cael ei gyfeirio ymlaen
at wasanaethau eraill - gwasanaethau eilaidd felly, ond yn y feddygfa y
rhoddir y gofal cychwynnol.
Barn y pwyllgor yw mai 'gofal cychwynnol' yw'r term cywir a bod 'gofal
sylfaenol' yn gamarweiniol (does dim byd sylfaenol am y gofal!). Mae
cyfieithwyr iechyd gogledd Cymru yn defnyddio'r term 'gofal cychwynnol'
o hyd.
Mae'r pwyllgor wedi gohebu gyda'r Cynulliad ynghylch y term hwn, ac
mae'r sawl sy'n gyfrifol am y Gymraeg o fewn y Gwasanaeth Iechyd yng
Nghymru hefyd wedi codi'r mater gyda'r Cynulliad, ond heb gael ymateb.
Byddwn i'n glynu wrth 'gofal cychwynnol' felly fel y term cysyniadol
cywir, ac eithrio lle mae cyfieithwyr yn gwneud gwaith i'r Cynulliad ac
yn gorfod defnyddio'r termau sydd yn TermCymru.
Delyth
Ysgrifennodd Geraint Løvgreen:
> Gofal sylfaenol yn ôl pob rhestr ond un sydd gen i.
> Geraint
>
> ----- Original Message -----
> *From:* Glenys M Roberts <mailto:[log in to unmask]>
> *To:* [log in to unmask]
> <mailto:[log in to unmask]>
> *Sent:* Wednesday, December 08, 2004 1:05 PM
> *Subject:* Re: Primary Care
>
> TermCymru - gofal sylfaenol yn ddi-ffael.
> Glenys
>
> ----- Original Message -----
> *From:* Puw, John <mailto:[log in to unmask]>
> *To:* [log in to unmask]
> <mailto:[log in to unmask]>
> *Sent:* Wednesday, December 08, 2004 12:58 PM
> *Subject:* Re: Primary Care
>
> Wil
>
> Gwell fyddai cysylltu â Sharon Jones yn BILl Sir y Fflint, gan
> mai hi sy'n gyfrifol am yr iaith Gymraeg i holl BILLau Gogledd
> Cymru.
> Angharad.Wright@BILlSir
> <mailto:[log in to unmask]>yFflint.wales.nhs.uk
> <mailto:[log in to unmask]> ydi
> cyfeiriad e-bost ei hysgrifenyddes a 01352 744037 ydi rhif
> ffôn un o'r ddwy - 'dw i ddim yn cofio pa un!
>
> John
>
> ------------------------------------------------------------------------
> *From:* Discussion of Welsh language technical terminology and
> vocabulary [mailto:[log in to unmask]] *On
> Behalf Of *INC Cyfieithu Translation
> *Sent:* 08 December 2004 12:51
> *To:* [log in to unmask]
> *Subject:* Primary Care
>
> Dw i'n cofio Delyth yn ein siarsio rwybryd mai 'gofal
> cychwynnol' oedd 'primary care' ac nid 'gofal sylfaenol'
>
> Mae 17600 eitem gyda 'gofal sylfaenol ar Google a 8400 gyda
> 'gofal cychwynnol'.
>
> Ydi hyn yn golygu fod 'gofal sylfaenol' bellach wedi ennill ei
> blwyf?
>
> Wil
>
>
> Nid yw'r e-bost hwn nag unrhyw ffeiliau a drosglwyddir gydag
> ef o angenrheidrwydd yn adlewyrchu barn Heddlu Gogledd Cymru.
> Mae'r wybodaeth sydd yn y ddogfen hon yn gyfrinachol. Fe all
> fod yn gyfreithiol freintiedig.
> Bwriedir yr e-bost ar gyfer y person neu'r sefydliad a enwir
> uchod. Os derbyniwyd yr e-bost hwn trwy gamgymeriad,
> dylid hysbysu'r anfonydd a dileu'r e-bost oddi ar eich system
> os gwelwch yn dda.
> Os mai nid i chi y bwriadwyd ef ac nid chi yw'r cyflogwr na'r
> asiant sy'n gyfrifol am roi'r e-bost i'r derbynnydd bwriadedig,
> fe'ch hysbysir gan hyn na chaniateir i chi ddefnyddio,
> adolygu, lledaenu, dosbarthu na chopio'r e-bost ar unrhyw gyfrif.
> Fe all fod gwneud hynny yn anghyfreithlon.
>
>
> This e-mail and any files transmitted with it are not
> necessarily the view of North Wales Police.
> The information contained in this communication is
> confidential. It may be legally privileged.
> It is intended only for the person or entity named above.
> If you have received this e-mail in error please notify
> originator and erase this e-mail from your system.
> If you are not the intended recipient or the employer or agent
> responsible for delivering it to the
> intended recipient, you are hereby notified that any use,
> review, dissemination, distribution or copying
> of the e-mail is strictly prohibited. To do so may be unlawful.
>
|