> "Amlygu" sydd gan Microsoft yn fersiwn Cymraeg Word, ac os bydd y Microsoft
> Cymraeg yn lledu fe fydd eu dewis ffurfiau nhw yn dod yn ddylanwadol iawn
> wrth gwrs.
Gobeithio ddim, achos mae na lot o bethau hyll ynddo.
Efallai fod amlygu yn derm sydd wedi croesi o ddefnydd cyffredinol i
ddefnydd technegol (anghywir). Mae Google yn dangos nifer o
enghreifftiau lle mae rhywun wedi cyfieithu 'highlight the
problems/issues/opportunities' i 'amlygu' yn hytrach na dweud 'taflu
golau ar', 'datgelu', 'amlinellu', 'esbonio' neu unrhyw drosiad arall
sy'n gwneud synnwyr.
|