Gellid dadlau hyd yn oed nad oes angen y cysylltnod yn Saesneg yn yr achos
hwn. Byddai'n gwneud synnwyr mewn ymadrodd megis 'service-user
questionnaire' neu 'service-user satisfaction' ond byddwn i'n dadlau nad oes
angen cysylltnod wrth gyfeirio at 'service users'.
Garmon
Garmon Davies
Ewrolingo
+44 (0) 1656 668603
www.ewrolingo.co.uk
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Geraint Løvgreen
Sent: 10 November 2004 10:41
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Service-users
Cytuno,
ac yn bendant does dim isio'r cysylltnod yn y Gymraeg.
Geraint
----- Original Message -----
From: "David Bullock" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Wednesday, November 10, 2004 8:45 AM
Subject: Re: Service-users
Fel yn achos yr ymadrodd "antibiotic producing" pa ddydd, mae'n debyg bod
yr ateb yn dibynnu ar ystyr y gwreiddiol.
Fe fydd yna adegau pan fyddwch yn gwybod mai un gwasanaeth sy'n cael ei
drafod, ac felly sôn am ddefnyddwyr y gwasanaeth hwnnw fyddwch chi,
e.e. "daeth cwynion i law yn ystod y flwyddyn oddi wrth saith o
dddefnyddwyr y gwasanaeth, ond roedd pob un arall o ddefnyddwyr y
gwasanaeth yn ddigon bodlon ar y safonau".
Ar y llaw arall, os nad yw'n hysbys mai un gwasanaeth yn unig sydd dan
sylw, yna y lluosog yw'r gystrawen naturiol yn Gymraeg. Yn aml iawn lle
mae'r Saesneg yn defnyddio'r unigol, mae'r Gymraeg yn defnyddio'r lluosog:
book shop, ond siop lyfrau; apple tart ond tarten afalau; fell walking and
mountain climbing, ond cerdded y bryniau a dringo mynyddoedd; song writer
ond awdur caneuon.
Felly, mae'n hawdd cael brawddeg fel hyn: "Mae cwsmeriaid adrannau'r
cyngor yn fodlon ar y cyfan: dim ond saith cwyn ddaeth i law gan
ddefnyddwyr gwasanaethau yn ystod y flwyddyn."
|