Beth ydi'r rheol efo'r ymadrodd hwn? Dw i'n darllen gwaith cyfieithydd ifanc
sy'n ei ddefnyddio'n gyson yn lle 'hefyd' ac mae'n swnio'n chwithig iawn i
mi.
1) rydych chi i fod i ddefnyddio yn ogystal efo rhywbeth ar ei ôl - yn
ogystal â'r problemau cychwynnol......
2) Mae cydweithiwr yn awgrymu ei fod o'n iawn hefyd ar ddiwedd cymal
rhoi sylw i'r bechgyn, a'r merched yn ogystal.
Unrhyw sylwadau? Neu ydan ni'n mynd i faes cywirdeb iaith, yn hytrach na
thermau?
Diolch
Sylvia
---
-
---
Outgoing mail is certified Virus Free.
Checked by AVG anti-virus system (http://www.grisoft.com).
Version: 6.0.792 / Virus Database: 536 - Release Date: 09/11/2004
|