Dro'n ol fe ofynnodd Anabledd Cymru i ni safoni termau ym maes anabledd,
nid dim ond o safbwynt cywirdeb cysyniadol a ieithyddol, ond cywirdeb
gwleidyddol hefyd. I wneud hyn buom yn trafod gyda defnyddwyr anabl mewn
sawl rhan o Gymru. Un term oedd yn cael ei gollfarnu oedd 'clefyd siwgr'
- roedd yr elfen 'clefyd' yn cael ei anghymeradwyo gan ei fod yn rhoi'r
argraff fod y cyflwr yn afiechyd difrifol. Digon posib y byddai meddygon
yn dadlau fod hynny'n wir, ac nad yw'r duedd bresennol i ffeindio
geiriau bach neis am bob dim yn un iach iawn, ond plygu i ddymuniad
defnyddwyr, a Chymdeithas Diabetes Prydain [sic] yn arbennig, wnaethom
ni. 'Diabetes' felly sy'n mynd a hi.
Delyth
Ysgrifennodd teulu lewis:
> Roedd y Groegiaid yn disgrifo'r cyflwr fel diabetes mellitus, .... ac er
> mai nid siwgr sy'n achosi'r cyflwr, mae'r cyflwr yn effeithio ar lefel y
> siwgr yn y gwaed..... felly mae clefyd siwgr neu glefyd melys yn
> berffaith iawn, ac yn ddealladwy gan bawb. Nid yw diabetes na mellitus
> yn disgrifo'r achos, chwaith......ond awn ni ddim i ffraeo am y pethau
> ma.....diabetes fyddaf innau'n ei roi yn bennaf, mae'n rhaid i mi
> gyfaddef...os nad yw'n ddiwrnod pan dwi'n cael myll ac yn gresynu ein
> bod yn rhoi'r gorau i ymadroddion Cymraeg digonol.....dwi'n cael myll yn
> aml y dyddiau hyn.....byddaf yn cael fy nghwahodd i fynd ar y rhaglen
> Grumpy Old Men cyn bo hir, dwi'n siwr....
> magi
>
> ----- Original Message -----
> From: Huw Garan <mailto:[log in to unmask]>
> To: [log in to unmask]
> <mailto:[log in to unmask]>
> Sent: Monday, November 08, 2004 11:14
> Subject: Re: present/presentation
>
> Meddai Magi:
> beth oedd yn bod hefo clefyd siwgr neu'r clefyd melys, dwn i ddim
>
> Y prif beth oedd yn bod â chlefyd y siwgr, am wn i, oedd nad siwgr
> sy'n achosi diabetes ond methiant y pancreas. Gellid dadlau bod
> pydredd dannedd yn 'glefyd siwgr' gan mai siwgr yw'r prif achos...
> Er bod pawb yn gyfarwydd â 'chlefyd (y) siwgr' fel ymadrodd, efallai
> bod cadw at yr enw Groeg, sef 'diabetes', yn well yn y pen draw?
>
> Hg
>
> Huw Garan
> [log in to unmask] <mailto:[log in to unmask]>
>
--
Delyth Prys
e-Gymraeg / e-Welsh
Canolfan Bedwyr
Prifysgol Cymru,Bangor /
University of Wales,Bangor
Bangor
Gwynedd
LL57 2DG
[log in to unmask]
+44 (0)1248 38 2800
|