Ddrwg gen i orfod anghytuno gyda fy hybarch frawd-yng-nghyfraith ar hyn,
ond buom yn holi'r Eglwys Babyddol drwy'r Tad John Fitzgerald ynghylch
sut yr hoffai gael ei henwi yn Gymraeg, a'r ateb oedd mai Eglwys
Babyddol, nid Eglwys Gatholig oedd eu dewis ffurf. Dyna'r rheswm dros
roi ffurfiau yn cynnwys 'pabyddol' yn y Termiadur Ysgol.
Dadl y Tad Fitzgerald oedd mai eglwys gyda'r Pab yn ben arni yw'r Eglwys
Babyddol. Yn Gymraeg meddai dylid cadw 'catholig' i olygu 'byd-eang'.
Rwy'n meddwl mai'r hyn sydd wedi drysu pethau yn ddiweddar yw dylanwad y
Saesneg a'r ffordd y mae 'Papists' yn cael ei ddefnyddio fel term o
anfri. Yn yr iaith honno mae'n naturiol fod defnyddwyr yn ffafrio
'Catholics' fel term heb arlliw sarhaus iddo, ond nid oes arlliw sarhaus
i 'Pabyddion', 'pabyddol' etc yn y Gymraeg, a does dim rheswm dros
ddilyn y Saeson yn hyn o beth.
Delyth
Ysgrifennodd Berwyn Jones:
> Mae'n well gan 'Babyddion' gael eu galw'n 'Gatholigion' a does dim angen
> cyfieithu 'Roman'. Ysgol Gatholig... fyddai'r ffurf orau.
>
> Berwyn
>
> ----- Original Message -----
> From: bryn rowlands <mailto:[log in to unmask]>
> To: Berwyn Prys Jones <mailto:[log in to unmask]>
> Sent: Tuesday, November 09, 2004 9:00 AM
> Subject: Roman Catholic Diocesan Education Authority
>
> Ar wahan i unrhyw help gyda'r anghenfil uchod byddwn yn
> gwerthfawrogi unrhyw awgrym/ffurf safonol ar dalfyru 'R. C' Fel y
> gwelwch, cyd destun polisiau ysgol sydd i'r gwaith a digwydd (Enw)
> R.C. Primary School etc yn gyson.
>
> Ai ' Pabyddion Rhufeunig ' yw 'Roman Catholics'.? Yntau 'Pabyddion'
> yn unig bellach? Ai ysgolion P.Rh./ B.Rh/ BR sydd ganddynt, neu
> efallai 'Ysgolion Pabyddol' Ai YP/YB fyddai un o'r rheini?
>
> Byddwn yn gwerthfawrogi unrhyw oleuni,
>
> Diolch,
> Bryn
>
> ------------------------------------------------------------------------
> ALL-NEW Yahoo! Messenger
> <http://uk.rd.yahoo.com/evt=21626/*http://uk.messenger.yahoo.com> -
> all new features - even more fun!
>
--
Delyth Prys
e-Gymraeg / e-Welsh
Canolfan Bedwyr
Prifysgol Cymru,Bangor /
University of Wales,Bangor
Bangor
Gwynedd
LL57 2DG
[log in to unmask]
+44 (0)1248 38 2800
|