'(i) lawr y lein' amdani, felly. Fe ddefnyddir yr ymadrodd yn Saesneg waeth
i ba gyfeiriad daearyddol y bydd yr alwad yn mynd - i'r gogledd, y de, y
dwyrain neu'r gorllewin. Fel rheol, y syniad yw bod yr alwad yn mynd o'r
canol i rywle llai 'pwysig', yn union fel y byddai'r Great Western Railway
ers talwm yn galw pob trên i Paddington yn 'up train' a phob trên oddi yno'n
'down train'. Hierarchaeth grym ar waith!
Berwyn
----- Original Message -----
From: "Catrin Alun" <[log in to unmask]>
To: "Berwyn Prys Jones" <[log in to unmask]>
Sent: Friday, November 26, 2004 12:19 PM
Subject: Re: down the line
Dyna oeddwn i'n ei ofni! Beth fyddai orau i'w ddweud felly?
Diolch am yr help Berwyn!
Catrin
----- Original Message -----
From: "Berwyn Jones" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Friday, November 26, 2004 12:02 PM
Subject: Re: down the line
Gall gyfeirio hefyd at gyfweliad rhwng dau mewn stiwidios gwahanol ('down
the line to Brighton, I asked...').
Berwyn
----- Original Message -----
From: "Catrin Alun" <[log in to unmask]>
To: "Berwyn Prys Jones" <[log in to unmask]>
Sent: Friday, November 26, 2004 11:47 AM
Subject: down the line
Cyfweliad ar radio/teledu o bosib. Fyddai 'dros y ffôn' yn gwneud y tro,
neu oes yna bosibilrwydd mai llinell o fath arall sydd dan sylw?
Catrin
|