Rwy wedi dod ar draws ‘identity fraud’ a gweld bod pobl eraill yn
defnyddio ‘twyll hunaniaeth’ amdano ond dydw i ddim yn hapus â hwn.
Rwy’n cofio defnyddio ‘dwyn manylion personol' unwaith neu ddwy ond
mae’n bosib y byddai’n rhaid amrywio yn ôl y cyd-destun.
Cofion
Siân
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Ann Corkett
Sent: 22 November 2004 20:47
To: [log in to unmask]
Subject: Re: I.D.
> Bu bron imi a defnyddio 'ID'. Dwn i ddim os byddwn i'n licio bathu
'AD' -
> drysu'r darllenydd heb angen efallai?
Sori. 'roeddwn i wedi bwriadu ychwanegu at awgrym Bruce y byddai'n
syniad
da i roi eglurhad mewn cromfachau'r tro cyntaf, ond anghofiais i.
'Rwy'n dal i feddwl bod ystyr braidd yn wahanol i "hunaniaeth" ac nad
yw'r
ffaith bod cyfieithydd arall wedi'i ddefnyddio rywdro ar gyfer "ID" yn
newid
hynny.
Ann
----- Original Message -----
From: "Dafydd Lewis" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Monday, November 22, 2004 7:58 PM
Subject: Re: I.D.
> Diolch yn fawr.
>
> 'Hunaniaeth' ddefnyddiais yn y diwedd, teimlais ei fod yn ffitio yn
reit
> dda heb dynnu gormod o sylw ato'i hun...er mai yng nghyd-destun
hunanieth
> genedlaethol y defnyddir ef ar y we gan amlaf, dwi'n meddwl. Ar ol
anfon y
> gwaith i'r cleient sylwais fod 'hunaniaeth' wedi cael ei ddefnyddio
gan y
> GIG (NHS) hefyd, ac ym maes gofal iechyd oedd y cyfieithiad.
>
> Bu bron imi a defnyddio 'ID'. Dwn i ddim os byddwn i'n licio bathu
'AD' -
> drysu'r darllenydd heb angen efallai?
>
> Byddai 'adnabod' yn iawn mewn rhai llefydd ond rhaid oedd cael gair
oedd
> yn awgrymu adnabod pwy yw rhywun yn unigryw, mewn is-deitl.
>
> Fyswn i ddim yn defnyddio cydnabod - "Fy niolch i'm cydnabod o bob
gwaed"
> ayyb.
>
> Dafydd
>
>
> On Mon, 22 Nov 2004 14:49:08 -0000, Ann Corkett
<[log in to unmask]>
> wrote:
>
> >Mae'n chwarter i dri, a gwelaf nad yw neges a anfonais am chwarter i
> ddeudeg
> >eto wedi cyrraedd y grwp. Tybed pryd y gwelwch hyn?
> >
> >Dyma gyd-digwyddiad: 'Rwyf newydd gyfieithu cais o'r Gymraeg. Mae
bocs
> ar
> >y diwedd gyda'r cwestiwn:
> >"A amgaewyd ffi gywir yr ymgeisydd ynghyd a^'r cerdyn cydnabod a
stamp
> >arno?"
> >Mae'n amlwg yn golygu "acknowledgement card"
> >
> >Ann
>
|