Efallai y byddai'n syniad i chi gysylltu â Rhian Evans yng Ngwasanaeth Tân
Gogledd Cymru i weld pa dermau mae'n nhw'n ei ddefnyddio yn eu dogfennau.
Margaret
>From: "CS.Translator" <[log in to unmask]>
>Reply-To: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
> <[log in to unmask]>
>To: [log in to unmask]
>Subject: wholetime / retained firefighters
>Date: Mon, 1 Nov 2004 15:14:58 -0000
>
>A gaf fi ofyn barn y cylch am y termau 'wholetime' a 'retained' yng
>nghyswllt dwy system o gyflogi diffoddwyr tân.
>
>
>
>Hyd yn hyn defnyddiwyd 'llawn amser' am 'wholetime' - y gwasanaeth tân yw
>eu prif gyflogwyr.
>
>
>
>A 'rhan amser' am 'retained' - sef diffoddwyr tân sy'n gweithio i gyflogwyr
>eraill yn bennaf ac yn cael eu galw allan i'r orsaf pan fo angen.
>
>
>
>Mae'r termau hefyd yn cael eu defnyddio am y gorsafoedd - Wholetime
>stations / retained stations.
>
>
>
>Mae'r termau 'llawn amser' a 'rhan amser' yn ddiffygiol achos mi ddaw
>achosion o ddiffoddwyr tân yn gweithio'n rhan amser i'r gwasanaeth ond ar
>orsafoedd 'wholetime' - h.y. part-time Wholetime.
>
>
>
>Ac mae llawer o ddiffoddwyr 'retained' hefyd ar gael 24 awr ac felly dydy
>'rhan amser' ddim yn iawn!
>
>
>
>Mae 'wrth gefn' yn cael ei ddefnyddio weithiau am 'retained' - ond mae
>hynny'n cyfleu 'back up' ac nid hynny ydyn nhw achos nid ar gael i gefnogi
>diffoddwyr tân 'wholetime' rhag ofn y maen nhw - nhw ydy'r criwiau tân yn y
>rhan fwyaf o lefydd.
>
>
>
>Mi fyddwn i'n gwerthfawrogi eich ymateb yn fawr.
>
>
>
>Diolch
>
>Menna
>
>
>
>
>
>
>
>**********************************************************************
>Mae'r wybodaeth sydd yn y neges e-bost hon ac unrhyw
>ffeiliau a drosglwyddir gydag hi yn gyfrinachol a gall fod yn
>gyfreithiol freintiedig. Dim ond i'r sawl/rhai a enwir uchod y'i
>bwriedir. Os nad chi yw'r derbynydd a fwriedir fe'ch hysbysir
>eich bod wedi derbyn e-bost mewn camgymeriad ac na
>chaniateir datgely, copio, lledaenu neu weithredu ar sail
>cynnwys yr e-bost a'r hyn sydd ynghlwm, ac y gallai hynny
>fod ynanghyfreithlon. Os nad chi yw'r derbynydd a fwriedir
>rhowch wybod i'r sawl a'i hanfonodd ar unwaith.
>**********************************************************************
>The information contained in this e-mail message and any
>files transmitted with it is confidential and may be legally
>privileged. It is intended only for the addresse/'s. If you
>are not the intended recipient you are advised that you
>have received the e-mail in error and that any disclosure,
>copying, distribution or action taken in reliance on the
>contents of the e-mail and it's attachments is strictly
>prohibited and may be unlawful. Please advise the sender
>immediately if you are not the intended recipient.
>**********************************************************************
>
|