Poen o air yn wir - a brawddeg wirion iawn os ca i ddweud. Mae wedi ei
drafod o'r blaen ac mae'r archifau'n cynnwys rhestr eitha cynhwysfawr o
bosibliadau - gan Magi, er enghraifft -
'trafod, cynnwys, ymgynghori â, cyfrannu, cyfranogi, yn ymwneud â, yn rhan
o, perchnogi, yn perthyn, yn ymddiddori yn, - unrhyw beth sy'n cymryd fy
ffansi yng nghyd-destun y darn.... '
Yn y cyd-destun yma byddwn yn awgrymu mynd yn ôl at y cwsmer i weld a fyddai
'trafod', 'cysylltu' neu 'ymgynghori' â'r cleient yn taro.
Glenys
----- Original Message -----
From: "[log in to unmask]" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Wednesday, November 17, 2004 12:01 PM
Subject: Engage
>Y gair dw i'n dod ar ei draws byth a hefyd yn ddiweddar yw 'engage' - yn y
>cyd-destun yma: 'the
> worker will engage with the client....'. Oes 'na rywun arall sy'n ei chael
> hi'n anodd i daro ar y
> gair cywir (neu wybod yn union beth mae'r Saesneg yn ei olygu!!)? Unrhyw
> awgrymiadau?
> Diolch
> Siân
>
>
|