Gyda llaw, diolch i rywun am fy nghywiro yn ddistaw bach am ddweud "ar ôl
cyfnod heb ei defnyddio" yn lle "ar ôl cyfnod o beidio â'i defnyddio".
'Rwyf bron a bod yn falch o gyfle i ddangos i Alwyn nad ydw innau "yn iawn
fel arfer". Stori arall yw Bruce!
Ann
----- Original Message -----
From: "Ann Corkett" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Tuesday, November 16, 2004 3:25 PM
Subject: [spam-hx] time out
> Cyd-destun:
> "He noted that there were no automatic time outs on Windows NT."
>
> Gwelaf "saib" ar gyfer "time out" yn hen Eiriadur Termau Cyfrifiadureg
MEU.
>
> Gan nad fydd pawb sy'n darllen y cofnodion hyn yn gyfarwydd iawn a
> chyfrifiaduron, roeddwn i wedi meddwl am:
> "Nododd nad oedd rhaglen Windows NT yn diffodd yn awtomatig ar ôl cyfnod
heb
> ei defnyddio."
>
> A yw fy nghynnig yn ddisgrifiad cywir o'r sefyllfa? A oes ffordd fwy
> cyffredin o'i disgrifio? A fyddai "... nad oedd rhaglen Windows NT yn
> cymryd seibiau awtomatig" yn ddigonol??
>
> Diolch,
>
> Ann
>
>
>
|