Felly, i grynhoi:
service-users / service users:
Pan yn cyfeirio at wasanaeth (unigol) dan sylw yn y cyd-destun
= "defnyddwyr y gwasanaeth".
Pan yn cyfeirio at wasanaeth (unigol) nas enwyd, yn gyffredinol, yn y cyd-
destun = "defnyddwyr gwasanaeth".
Pan yn cyfeirio at wasanaethau penodol (lluosog) = "defnyddwyr y
gwasanaethau".
Pan yn cyfeirio at wasanaethau (lluosog) yn gyffredinol = "defnyddwyr
gwasanaethau".
A dim cysylltnod.
Digon syml wedi'r cyfan...diolch!
Dafydd
On Thu, 11 Nov 2004 16:34:02 -0000, =?iso-8859-1?Q?Geraint_L=F8vgreen?=
<[log in to unmask]> wrote:
>Ella mai dyna ydi pwrpas yr heiffen yn y Saesneg yn y fan yma - i ddweud
mai
>users of *the* service sydd dan sylw. Os felly - defnyddwyr y gwasanaeth
>fyddai'n iawn yn Gymraeg.
>Geraint
>----- Original Message -----
>From: "Dafydd Lewis" <[log in to unmask]>
>To: <[log in to unmask]>
>Sent: Thursday, November 11, 2004 3:40 PM
>Subject: Re: Service-users
>
>
>Ann,
>'Dach chi'n iawn!
>Dyna oedd Ednyfed Jones, athro Cymraeg ysgol Pwllheli slawer dydd yn hoff
>o'i ddweud hefyd (mi glywaf o rwan). Bu farw yn ddiweddar yn ei nawdegau -
>heddwch i'w lwch.
>Dafydd
>
>On Thu, 11 Nov 2004 15:11:26 -0000, Ann Corkett <[log in to unmask]>
>wrote:
>
>>I fod yn fanwl gywir, mae "defnyddwyr gwasanaeth" yn golygu "users of *a*
>>service" yn hytrach na "users of *the* service".
>>Ann
>>----- Original Message -----
>>From: "Dafydd Lewis" <[log in to unmask]>
>>To: <[log in to unmask]>
>>Sent: Thursday, November 11, 2004 2:35 PM
>>Subject: Re: Service-users
>>
>>
>>> Diolch David,
>>> Fedra innau chwaith ddim gweld rheswm o gwbl am y cysylltnod, yn y
>Gymraeg
>>> na'r Saesneg. Yn ogystal, wela i ddim gwahaniaeth ymarferol
>>> rhwng 'defnyddwyr gwasanaeth' a 'defnyddwyr y gwasanaeth' yn yr unigol,
>>> mae'r ail yn llawer mwy naturiol, rhyw fath o ymdrech yw hyn i greu
>carfan
>>> o bobl mewn 'business'speak' yn hytrach na dweud y peth yn naturiol. Yr
>un
>>> yw'r ystyr, hyd y gwela i. Credaf bod angen (a chyfle) i gyfieithwyr
>>> wrthwynebu defnyddio termau fel hyn yn y Gymraeg (peth a wnes i ddim y
>tro
>>> yma, ond bydd cyfle arall)!
>>> Dafydd
>>>
>>> On Wed, 10 Nov 2004 10:40:32 -0000, =?iso-8859-1?Q?Geraint_L=F8vgreen?=
>>> <[log in to unmask]> wrote:
>>>
>>> >Cytuno,
>>> >ac yn bendant does dim isio'r cysylltnod yn y Gymraeg.
>>> >Geraint
>>> >
>>> >----- Original Message -----
>>> >From: "David Bullock" <[log in to unmask]>
>>> >To: <[log in to unmask]>
>>> >Sent: Wednesday, November 10, 2004 8:45 AM
>>> >Subject: Re: Service-users
>>> >
>>> >
>>> >Fel yn achos yr ymadrodd "antibiotic producing" pa ddydd, mae'n debyg
>bod
>>> >yr ateb yn dibynnu ar ystyr y gwreiddiol.
>>> >
>>> >Fe fydd yna adegau pan fyddwch yn gwybod mai un gwasanaeth sy'n cael
ei
>>> >drafod, ac felly sôn am ddefnyddwyr y gwasanaeth hwnnw fyddwch chi,
>>> >e.e. "daeth cwynion i law yn ystod y flwyddyn oddi wrth saith o
>>> >dddefnyddwyr y gwasanaeth, ond roedd pob un arall o ddefnyddwyr y
>>> >gwasanaeth yn ddigon bodlon ar y safonau".
>>> >
>>> >Ar y llaw arall, os nad yw'n hysbys mai un gwasanaeth yn unig sydd dan
>>> >sylw, yna y lluosog yw'r gystrawen naturiol yn Gymraeg. Yn aml iawn
lle
>>> >mae'r Saesneg yn defnyddio'r unigol, mae'r Gymraeg yn defnyddio'r
>>lluosog:
>>> >book shop, ond siop lyfrau; apple tart ond tarten afalau; fell walking
>>and
>>> >mountain climbing, ond cerdded y bryniau a dringo mynyddoedd; song
>writer
>>> >ond awdur caneuon.
>>> >
>>> >Felly, mae'n hawdd cael brawddeg fel hyn: "Mae cwsmeriaid adrannau'r
>>> >cyngor yn fodlon ar y cyfan: dim ond saith cwyn ddaeth i law gan
>>> >ddefnyddwyr gwasanaethau yn ystod y flwyddyn."
>>>
>>>
|