Diolch David,
Fedra innau chwaith ddim gweld rheswm o gwbl am y cysylltnod, yn y Gymraeg
na'r Saesneg. Yn ogystal, wela i ddim gwahaniaeth ymarferol
rhwng 'defnyddwyr gwasanaeth' a 'defnyddwyr y gwasanaeth' yn yr unigol,
mae'r ail yn llawer mwy naturiol, rhyw fath o ymdrech yw hyn i greu carfan
o bobl mewn 'business'speak' yn hytrach na dweud y peth yn naturiol. Yr un
yw'r ystyr, hyd y gwela i. Credaf bod angen (a chyfle) i gyfieithwyr
wrthwynebu defnyddio termau fel hyn yn y Gymraeg (peth a wnes i ddim y tro
yma, ond bydd cyfle arall)!
Dafydd
On Wed, 10 Nov 2004 10:40:32 -0000, =?iso-8859-1?Q?Geraint_L=F8vgreen?=
<[log in to unmask]> wrote:
>Cytuno,
>ac yn bendant does dim isio'r cysylltnod yn y Gymraeg.
>Geraint
>
>----- Original Message -----
>From: "David Bullock" <[log in to unmask]>
>To: <[log in to unmask]>
>Sent: Wednesday, November 10, 2004 8:45 AM
>Subject: Re: Service-users
>
>
>Fel yn achos yr ymadrodd "antibiotic producing" pa ddydd, mae'n debyg bod
>yr ateb yn dibynnu ar ystyr y gwreiddiol.
>
>Fe fydd yna adegau pan fyddwch yn gwybod mai un gwasanaeth sy'n cael ei
>drafod, ac felly sôn am ddefnyddwyr y gwasanaeth hwnnw fyddwch chi,
>e.e. "daeth cwynion i law yn ystod y flwyddyn oddi wrth saith o
>dddefnyddwyr y gwasanaeth, ond roedd pob un arall o ddefnyddwyr y
>gwasanaeth yn ddigon bodlon ar y safonau".
>
>Ar y llaw arall, os nad yw'n hysbys mai un gwasanaeth yn unig sydd dan
>sylw, yna y lluosog yw'r gystrawen naturiol yn Gymraeg. Yn aml iawn lle
>mae'r Saesneg yn defnyddio'r unigol, mae'r Gymraeg yn defnyddio'r lluosog:
>book shop, ond siop lyfrau; apple tart ond tarten afalau; fell walking and
>mountain climbing, ond cerdded y bryniau a dringo mynyddoedd; song writer
>ond awdur caneuon.
>
>Felly, mae'n hawdd cael brawddeg fel hyn: "Mae cwsmeriaid adrannau'r
>cyngor yn fodlon ar y cyfan: dim ond saith cwyn ddaeth i law gan
>ddefnyddwyr gwasanaethau yn ystod y flwyddyn."
|