Diolch.
Ydi hyn yn golygu felly y gallwch chi ddefnyddio e.e. Y Pair Iaith Cyf
ac Y Pair Iaith Ltd fel y mynnwch chi?
Ond rwy'n gwybod am gwmni sydd wedi cael trafferth gyda'r FSA (Awdurdod
Gwasanaethau Ariannol) am eu bod wedi cyflwyno'u cyfrifon o dan yr enw
**** *** Ltd a hwythau wedi'u cofrestru fel **** *** Cyf.
Ydi hynny'n wahanol?
Cofion
Siān
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Dafydd Tomos
Sent: 23 November 2004 13:57
To: [log in to unmask]
Subject: Re: ltd - cyf
> Rwy'n diweddaru penllythyr a slip cyfarchion cwmni cyfyngedig.
> Ar y papurau oedd ganddynt cynt, roedden nhw'n defnyddio enw'r
> cwmni ā "Ltd" ar un ochr a'r enw ā "Cyf" ar yr ochr arall.
> Hefyd, roedden nhw wedi cyfieithu enw'r rhiant gwmni e.e.
> Davies Engineering Group Inc.
> Grw^p Peirianneg Corfforedig Davies
>
> Beth yw'r sefyllfa gyfreithiol? A yw'n iawn cyfieithu enwau?
Er mai dim ond un enw swyddogol sydd ar y rhestr, mae Cyfyngedig yn
gyfartal i Limited (a Cyf/Ltd yr un fath). Os oedd "Cwmni Cyf" yn
bodoli, fase ddim yn bosib cofrestru "Cwmni Limited", a mae'r
ddau enw yn disgrifio yr un cwmni.
Dwi ddim yn siwr os yw'r un peth yn wir am Group, gan nad
oes son am ddefnydd y gair Cymraeg, ond mae'r defnydd o'r gair Group
wedi ei 'gyfyngu' ymhellach.
|