Doedd Emlyn Evans erioed wedi clywed y gair "boilies" er ei fod o'n gwybod
am bobl weithiau'n rolio darn o fara'n belen, ac am botsiwrs yn defnyddio
"grawn samwn" i roi blas ar abwyd euog/eog. Rhaid mai abwyd ar gyfer
pysgota bras ydy boilies, medde fo, a chewch chi mo brithyll efo nhw. Mae
ei ferch, Marian, wedi dod o hyd i son amdanynt mewn llyfr ynghylch
torgochiaid (char), ond mae'n swnio fel petai boilies islaw sylw rhai
pysgotwyr!
Bydd pelenni past yn dal yn ddilys fel disgrifiad hyd yn oed os daw term
Cymraeg i'r amlwg ryw ddydd.
Ann
----- Original Message -----
From: "Vaughan-Thomas, Paul" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Monday, November 08, 2004 10:29 AM
Subject: Re: [Maybe Spam] Re: fishing: boilies
> Diolch Ann am eich cynnig. Mae 'pelenni past' yn disgrifio beth ydyn nhw,
> felly heblaw i mi glywed am rywbeth arall, wnaiff hynny'r tro
>
> Paul V. Thomas
>
> > ----------
> > From: Ann Corkett[SMTP:[log in to unmask]]
> > Reply To: Discussion of Welsh language technical terminology and
> > vocabulary
> > Sent: 08 November 2004 10:15
> > To: [log in to unmask]
> > Subject: [Maybe Spam] Re: fishing: boilies
> >
> > Concise Oxford
> > boily: A decoction of flour and milk; gruel
> >
> > Pelenni past ydy boilies, a cheir ddisgrifiadau, a sut i'w gwneud nhw,
ar
> > sawl safle, e.e. http://www.geocities.com/diabolo38/bouille.html
> >
> > Mae merch Emrys Evans, y pysgotwr o'r Blaenau, yn gwneud rhywfaint o
waith
> > cyfieithu, ac mae hi'n mynd i ffonio ei thad a gofyn a oes term Cymraeg.
> > Os
> > nad oes, byddai "pelenni past" yn ddisgrifiad cystal a dim, mae'n debyg.
> >
> > Dof yn ol atoch ar hyn.
> >
> > Ann
> >
> >
> > ----- Original Message -----
> > From: "Paul Thomas" <[log in to unmask]>
> > To: <[log in to unmask]>
> > Sent: Monday, November 08, 2004 9:28 AM
> > Subject: fishing: boilies
> >
> >
> > > Tybed oes 'na bysgotwyr mas 'na yn eich plith allai helpu fan hyn.
Dwi'n
> > > cyfieithu darn ynglyn ag abwydod (hynny yw, 'baits' yn gyffredinol).
Mae
> > > son am BOILIES ond beth ar wyneb y ddaear yw'r rhain? Allai rhywun
rhoi
> > > diffiniad i mi ac, os bosib, y term Cymraeg amdanynt?
> > > Diolch
> > >
> > > Paul V Thomas
> > >
> >
>
>
> ******************************************************************
>
> This email and any files transmitted with it are confidential
> and intended solely for the use of the individual or entity to
> whom they are addressed. If you have received this email in error
> please notify the administrator on the following address:
> [log in to unmask]
>
>
> Mae'r e-bost hwn ac unrhyw ffeiliau a drosglwyddir gydag ef yn
> gyfrinachol ac at ddefnydd yr unigolyn neu'r corff y cyfeiriwyd
> hwy atynt yn unig. Os ydych wedi derbyn yr e-bost hwn drwy
> gamgymeriad, dylech hysbysu'r gweinyddydd yn y cyfeiriad canlynol:
> [log in to unmask]
>
> *******************************************************************
>
|