Cyd-ddigwyddiad - ynteu Rhagluniaeth?
Yn yr un "post" a sylw David ynghylch http://www.beiblcymraeg.org/ daeth
ymateb gan y Llyfrgell Genedlaethol ynghylch yr uchod. Beth amser yn ol,
bum yn cyfieithu yn lansiad y wefan uchod, a oedd i'w chael trwy safle'r
Llyfrgell (er iddi gael ei chreu gan rywun o'r tu allan. Noddwyd y gwaith
gan Gymdeithas y Beibl, os deallaf yn iawn). 'Roeddwn i'n ei defnyddio o
dro i dro a'i chymeradwyo i gyfieithwyr eraill.
Dros flwyddyn yn ol, diflannodd y cysylltiad - mae'r enw'n dal ar safle'r
Llyfrgell, ond does dim modd dilyn y cysylltiad. Holais flwyddyn yn ol, ac
rwyf newydd holi eto. Mae'n ymddangos nad yw'r Llyfrgell yn medru cysylltu
a'r awdur mwyach, na chael mynediad i'r safle. Mae'n ymddangos nad oes neb
yn gyfrifol am y gronfa mwyach. Mae'n ymddangos imi yn wastraff ac yn
golled ofnadwy.
Faint o ddefnydd oedd ar y safle cyn iddi ddiflannu? Faint o bobl sydd wedi
chwilio amdani a chael eu siomi? Neu faint a fyddai wedi'i defnyddio 'tasen
nhw wedi gwybod amdani?
Os oes gan unrhyw un sylwadau, naill ai ar gyfer y grwp, neu drwy fy
nghyfeiriad personol, byddwn i'n falch o'u trosglwyddo nhw i'r Llyfrgell.
Ann
|