Gwn nad yw hyn yn fater ar gyfer y grwp trafod termau yn uniongyrchol, ond
'rwyf am dynnu sylw'r rhai ohonoch sydd yn gyfieithwyr ar y pryd, ond
efallai heb fod yn aelodau grwp trafod Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru. 'Rwyf
newydd anfon y neges ganlynol at y grwp hwnnw, a chymeraf mai dyna yw'r lle
gorau ar gyfer unrhyw drafodaeth.
Ann
Yn ddiweddar, tynnodd Bryn Jones, y Blaenau, sylw at broblem a all godi'n
fwyfwy ag offer is-goch oherwydd y ddeddfwriaeth newydd ynghylch Anabledd:
Yn y gorffennol, yr oedd gan rai adeiladau cyhoeddus ystafell gyda dolen
anwythol a fyddai'n caniatáu i'r rhai trwm eu clyw droi at sianel arbennig
(T) ar eu cymorth clyw er mwyn derbyn signal yn uniongyrchol o feicroffon y
siaradwr. Oherwydd y ddeddfwriaeth newydd ynghylch anabledd, bydd llawer
mwy o adeiladau yn darparu gwasanaeth tebyg. Yn anffodus, os oes dolenni
anwythol mewn mwy nag un ystafell, maent yn ymyrryd â'i gilydd.
Dyma un o'r rhesymau pam mae sawl corff yn dewis system is-goch sefydlog yn
lle dolen anwythol. Gyda system felly, gall defnyddwyr naill ai gwisgo
dolen anwythol fach unigol o gwmpas y gwddf (mae hon yn codi'r signal
is-goch a'i drosglwyddo wedyn i'r cymorth clyw) neu wisgo ffonau clust
cyffredin. Y system is-goch fwyaf poblogaidd yw'r un 2.3 MegaHertz, sef yr
un un a ddefnyddir gan y ffonau clust lliw gwin sydd mor boblogaidd gyda
chyfieithwyr.
Y canlyniad, os yw'r system sefydlog wedi'i throi ymlaen ar gyfer gwrandawyr
trwm eu clyw, yw ei bod yn ymyrryd â'r offer cyfieithu - fel yr oedd rhai
mathau o oleuadau'n arfer ymyrryd â systemau is-goch 95 KHz. Fel mae'n
digwydd, gellid defnyddio'r hen offer is-goch hwn gyda'r systemau sefydlog
newydd yn ddiogel, gan eu bod ar donfeddi gwahanol, er bod problem y
goleuadau, wrth gwrs, yn parhau.
Mae modd troi swîts ar gefn trawsyrrydd IDB i'w newid o 2.3 MHz i 2.8 MHz,
ond yn anffodus nid yw ffonau clust ar gael ar gyfer y donfedd hon yn unig.
Rhaid talu tua 50% yn rhagor ar gyfer ffonau clust dwy sianel (y rhai lliw
siarcol). Tybed a oes modd newid tonfedd pob trawsyrrydd, ynteu dim ond
rhai?
Cefais yr holl wybodaeth hon drwy garedigrwydd Bryn Jones, sydd wedi edrych
drosto cyn imi ei anfon. Mae Megan wedi cael gair ag Emlyn Jones, o IDB.
"Ar ol sgwrsio am y broblem, yr unig awgrym a oedd ganddo mewn gwirionedd
oedd bod unrhyw un sy'n cael problem yn cysylltu ag ef." Mae Megan wedi
addo cysylltu a Bwrdd yr Iaith, gan fod ganddo adran sy'n delio ag anabledd.
Mae hyn yn cadarnhau imi mae gorau po gyntaf yw hi i'r Gymdeithas fedru
caniatáu aelodaeth i'r rhai sy'n canolbwyntio ar gyfieithu ar y pryd fel bo
modd eu cynrychioli a thynnu sylw at broblemau fel hyn cyn bod y mater yn
mynd yn rhy bell.
|