Gan i 'Canolfan Gwaith' (Jobcentre) droi'n 'Canolfan Byd Gwaith' (Jobcentre
Plus), awgrym arall fyddai troi 'Cyswllt Busnes' (Business Connect) yn
'Cyswllt Byd Busnes' (Business Connect Plus'). Wn i ddim pwy awgrymodd 'byd'
am 'plus', ond mae'n gynnig eitha teg. (Yn fwy cyffredinol, mae ychwanegu
'byd' o flaen geiriau fel 'addysg', 'amaeth', 'busnes', 'diwydiant' a
'teledu' ac ati yn aml yn help wrth wahaniaethu rhwng y cyffredinol a'r
penodol yn Gymraeg.)
Fy ngwrthwynebiad i ddefnyddio 'a Mwy' yw na fyddai neb yn rhyw barod iawn
i'w ychwanegu at ddiwedd teitl. Dychmygwch y sgwrs:
Fe: 'Rwy'n mynd i ffonio Cyswllt Busnes a Mwy.'
Hi: 'Pam wyt ti isie wy?'
Fe ellid dadlau mai 'a Rhagor'/'ac Ychwaneg' sy'n "gywir", beth bynnag, ond
â' i ddim ar ôl y sgwarnog honno!
Berwyn
----- Original Message -----
From: "David Bullock" <[log in to unmask]>
To: "Berwyn Prys Jones" <[log in to unmask]>
Sent: Tuesday, October 05, 2004 8:13 AM
Subject: Re: Business Connect Plus
> Mae "... a Mwy" wedi codi i gyfateb i "...Plus" o'r blaen yn ein plith
on'd
> yw e?
>
>
> ----- Original Message -----
> From: "Ann Wiliam" <[log in to unmask]>
> To: "David Bullock" <[log in to unmask]>
> Sent: Monday, October 04, 2004 6:13 PM
> Subject: Re: Business Connect Plus
>
>
> > Wedi gweld "Cyswllt Busnes" am "Business Connect".
> > Ann
> >
|