Diolch i ti Delyth am fynd ar drywydd yr un yma.
Dim ond un cyfeiriad at y dechneg oedd gen i, a hynny wrth fynd heibio mewn
gwirionedd, felly fe benderfynes i wneud y tro heb derm penodol, a defnyddio
aralleiriad o ateb Berwyn, gan ddisgrifio'r peth fel "dadansoddi oediadau
mewn dilynniannau".
David
----- Original Message -----
From: "D.Prys" <[log in to unmask]>
To: "David Bullock" <[log in to unmask]>
Sent: Monday, October 18, 2004 11:37 AM
Subject: lag sequential analysis
> Holais ein harbenigwyr Seicoleg ynghylch y term uchod, ac er bod y
> drafodaeth wreiddiol mae'n siwr wedi mynd yn angof erbyn hyn, rwy'n
> dyfynnu'r ateb isod rhag ofn y bydd rhywun yn chwilio'r archif amdano yn
> y dyfodol:
>
> "Fel term ar gyfer Lag sequential analysis - byddwn yn bersonol yn
> dewis: dadansoddiad oediad-ddilyniannol.
>
> Mae dadansoddiad ol-oedi - yn cyfleu bod angen oedi cyn y dadansoddi -
> nid dyma'r ystyr."
>
> Delyth
>
> --
> Delyth Prys
> e-Gymraeg / e-Welsh
> Canolfan Bedwyr
> Prifysgol Cymru,Bangor /
> University of Wales,Bangor
> Bangor
> Gwynedd
> LL57 2DG
> [log in to unmask]
> +44 (0)1248 38 2800
>
|