Yn ôl fel rwy'n deall, 'graffeg' yw'r maes a 'graffigwaith' yw'r cynnyrch.
Byddai 'fersiwn â graffigwaith', felly, yn gywirach na 'fersiwn â graffeg'.
Wedi dweud hynny, byddwn i'n defnyddio 'fersiwn graffigol'.
Berwyn
----- Original Message -----
From: "Sian Roberts" <[log in to unmask]>
To: "Berwyn Prys Jones" <[log in to unmask]>
Sent: Tuesday, September 07, 2004 8:35 PM
Subject: graphical version
Mae hwn yn cyfeirio at wefan.
Mae dau fersiwn - un yn cynnwys dim ond ysgrifen a'r llall yn cynnwys
lluniau ac ati hefyd.
Mae'r cyfieithiad presennol yn dweud "fersiwn graffig" am "graphical
version" ond dydw i ddim yn hapus â hwn, na "fersiwn graffigol" chwaith.
Rwy'n credu bod "fersiwn â graffeg" yn cyfleu'r ystyr yn well. Ydw i'n iawn?
Diolch
Siân
|