Byddwn i'n dyfalu mai "bathiad dysgedig" ar sail y Lladin yw "anwytho", ac
nid gair sydd wedi deillio'n organig o'r iaith honno ganrifoedd yn ôl.
Tybed a edrychodd rhywun rywbryd ar "induction" a chofio bod "fructus" y
Lladin wedi rhoi "ffrwyth" yn y Gymraeg, a meddwl wedyn y byddai "-duct-"
Lladin yn cyfateb felly i "-dwyth-" yn y Gymraeg. Yr un un a fathodd y
gair "dwythell" i olygu "duct" efallai?
Beth bynnag, yr hyn sy'n drueni (i fi ta beth) yw bod gair oedd efallai yn
ddefnyddiol i olygu "induction" ym myd trydan yn cael ei lyncu yn
ddifeddwl wedyn i gyfateb i "induction" ym myd gwaith, a hynny er bod sawl
dewis ar gael eisoes.
|