"Pompren Ffeirad" yw'r enw a ddefnyddir yn Ystumtuen, sydd yr ochr arall yr
Afon Rheidol i Ysbyty Cynfyn, - y bont yw'r unig gysylltiad sydd gan bobl
Ystumtuen a'u heglwys plwyf heb fynd rownd trwy Bonterwyd, taith o ryw 5
milltir. "Pompren yr Offeiriad" yw'r enw 'cywir', mae'n amlwg, ond 'chlywais
i erioed neb yn arddel hynny.
Gareth Haulfryn
----- Original Message -----
From: "[log in to unmask]" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Tuesday, August 31, 2004 4:51 PM
Subject: Re: Parson's Bridge
Da clywed hynny. Oni fyddai Pompren *y* Ffeirad yn well?
Ann
Original Message:
-----------------
From: Matthew Clubb [log in to unmask]
Date: Tue, 31 Aug 2004 14:30:47 +0100
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Parson's Bridge
Diolch am eich help. Mae cyfaill o'r Cynulliad wedi rhoi gwybod i mi taw
"Pombren Ffeirad" sydd ar fap yr Arolwg Ordnans.
Matthew
----- Original Message -----
From: "[log in to unmask]" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Tuesday, August 31, 2004 1:20 PM
Subject: Re: Parson's Bridge
Methu dod o hyd i unrhyw beth (yr enw Saesneg yn unig sydd yn "Ancient
Bridges of Wales and Western England"), ond byddai "Pont y Ffeirad" yn
ddigon saff.
Bruce
... a rhywbeth fel 'na sy'n canu cloch 'da fi, yn hytrach na "Phont y
Person", er ei bod hi'n ddigon tebyg mai cyfieithiad 'rwyf innau wedi'i
glywed"
Ann
Original Message:
-----------------
From: Matthew Clubb [log in to unmask]
Date: Tue, 31 Aug 2004 11:13:28 +0100
To: [log in to unmask]
Subject: Parson's Bridge
Rhywle yn ardal Ponterwyd. A wyr rhywun a oes enw Cymraeg? Ni welaf ddim
yng Ng. yr Academi na'r Rhestr o Enwau Lleoedd.
Diolch am unrhyw sylwadau.
--------------------------------------------------------------------
mail2web - Check your email from the web at
http://mail2web.com/ .
--------------------------------------------------------------------
mail2web - Check your email from the web at
http://mail2web.com/ .
|