Am wn i, pe byddet yn trafod y mater bob dydd, byddai gwaedlif ar yr
ymennydd yn ddisgrifiad ymarferol hen ddigon da. Dyna fyddwn i wedi'i
ddweud wrth egluro i berthnasau a chleifion yn y lle cyntaf...
Nid yw'r ymadrodd hwnnw wrth gwrs yn ddigon manwl os wyt ti isio gwybod
lle'n union cafwyd gwaedlif - sub-dural, sub-arachnoid ac yn y blaen...
Dura mater yw'r enw llawn - a dwi wedi dysgu rhywbeth heno pan edrychais
yng Ngeiriadur Bruce (doeddwn i ddim yn dy goelio nad oedd yn
fanno....) - breithell dew (b) yw'r enw Cymraeg - tydio'n enw hyfryd....
Dwn i ddim - dwi'n amau'n gryf a fyddai unrhyw nyrs yn gwybod beth oedd
gwaedlif tan y freithell - ond gallant ddysgu wrth gwrs
diffinio'r cyflwr wyt ti?
beth am:
Gwaedlif tan y freithell (dura) - sy'n digwydd pan fydd gwythiennau
bychain sy'n rhedeg rhwng y freithell (gorchudd allanol yr ymennydd) a
wyneb yr ymennydd yn rhwygo a gwaedu. Wedyn, mae'r gwaed yn cronni ar
wyneb yr ymennydd.
Rwbath tebyg - mae hi yn hwyr....
magi
----- Original Message -----
From: "Sian Roberts" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Tuesday, September 21, 2004 09:36
Subject: subdural haemorrhage
Alla i yn fy myw weld hwn yn unman - na 'dura' na 'dural' chwaith.
Mae'n digwydd "when tiny veins that run between the dura (the outermost
covering of the brain) and the surface of the brain tear and leak blood.
A
collection of blood then forms over the surface of the brain"
Diolch
Sibn
|