Diolch i bawb sydd wedi ymateb i'r ymholiad lletchwith hwn ac i'm
cydweithiwr David Symons am ennyn y drafodaeth ar fy rhan. Dwi'n cyfieithu
gwaith am y cyfryngau ar gyfer myfyrwyr chweched dosbarth a des i ar draws
y gair 'geek' yn ystyr anorac rhyw raglen deledu... neu oedd e felly?! Dwi
wedi symud 'mlaen nawr a dwi ffaelu cofio'r cyd-destun yn iawn neu hyd yn
oed ble i ddod o hyd y gair yn y testun ond dwi'n sicr mai ystyr arferol y
gair Saesneg 'geek' oedd yno.
Felly y posibiliadau sydd gennym yw 'climach', 'gic' (gyda tho bach)
a 'gicyn'. Yn anffodus dyw 'climach' ddim yn golygu dim i mi ac felly
mae'n amhosib i mi gael 'feel' amdano. Er bod yn well 'da fi ddefnyddio
geiriau Cymraeg pur pan fo modd, y tro hwn dwi'n teimlo y byddai'n fwy
priodol i ddefnyddio 'gic' ...fel dywedodd rhywun, gair rhyngwladol ydy e
erbyn hyn a hefyd fydd dim amheuaeth ynglyn a'i ystyr wedyn.
|