Chlywais i mohono fo yng Ngwynedd - ond erbyn meddwl, dydi hynny'n golygu
dim!
Er hynny, y "Mole Valley" maen nhw'n galw lle rydwi'n byw...
Dafydd
On Sun, 19 Sep 2004 17:16:31 EDT, Huw Garan <[log in to unmask]> wrote:
>Gan ein bod ni'n siarad am ymadroddion, un a glywais y prynhawn 'ma gan
>fenyw o ddyffryn Aman wrth i ni gerdded ar lannau Afon Twrch (Cwm Tawe)
ar y
>Mynydd Du. Roedd yn rhyfeddu bod rhywrai wedi enwi'r afon yn Afon Twrch
oherwydd
>bod 'Twrch o ddyn' yn ymadrodd am ddyn annymunol iawn yn nyffryn Aman.
>
>Ydy hwn yn ymadrodd sy'n digwydd yn nyffryn Aman yn unig neu'n ymadrodd
>cyffredin nad yw wedi treiddio i Flaenau Tywi?
>
>Hg
>
|