Ond yw'r Cymry Cymraeg yn ddi-ddychymyg pan mae'n dod at eirfa
technolegol?
"Glenys cariad, lle mae'r teclyn?"
"Pa declyn Rhisi?"
"Wel y teclyn ar gyfer y pethma!"
"O dyma fe'r teclyn ar ben y peiriant, Rhisiart.."
"Na! Dyna'r teclyn ar gyfer y peiriant, dwi isie'r teclyn ar gyfer
y peiriant arall, y pethma"
"Y bocs?"
"Na, y bocs arall.. pethna"
"O reit, y teclyn ar gyfer y bocs *digidol*?"
"Ie, hwnna Glenys!"
"Wel mae e fel arfer ar ben y peiriant.. y peiriant bocs digidol pethna"
"Na, ddim yna. O diawl, dyma fe. Roedd yr anifail yn eistedd arno fe,
fel arfer"
"Anifail? Y gath ti'n feddwl?"
|