> Efallai fod 'fersiwn graffeg' yn boblogaidd, ond ydy hynny ddim yr un fath a
> dweud 'fersiwn ffiseg' neu 'fersiwn cemeg',
Pobl sydd yn dweud 'graphical' sy'n anghywir yn y cyd-destun o
dudalennau gwe.
Os ydych yn son am ystadegau yn cael ei gyflwyno mewn ddau ffurf - yna
defnyddiwch 'testunnol', 'graffegol'.
Mae tudalen gwe yn naill ai yn cynnwys testun yn unig neu yn cynnwys
testun ynghyd a graffeg. Dyna pam mai pawb sydd angen gwahaniaethu yn
galw yn un 'text version' a 'graphics version'. Os oedd tudalen yn
'graphical' yna fe fyddai'r holl tudalen fel llun.
Ni fyddai'n gwneud synnwyr galw tudalen yn 'destunnol' - dyw'r dudalen
ddim yn berthnasol i'r syniad o destun - y dudalen _yw'r_ testun.
Ymhellach, mae gan y BBC fersiynau 'graffeg isel' a 'graffeg uchel'
(neu mewn geiriau arall 'graffeg syml' a 'graffeg llawn'.
|