Onid y peth pwysig yw mai Nelson Mandela a Margaret Mead ddywedodd y geiriau
hyn, ac nad oes yr un Cymro na Chymraes wedi mynegi'r union syniad?
Chwiliais yn 'Y Flodeugerdd o Ddyfyniadau Cymraeg' o dan 'gweithredoedd' ond
yr unig ymadrodd a ddeuai'n agos at gyfleu'r ystyr oedd yr adnod a
ddyfynnais.
Berwyn
----- Original Message -----
From: "Ann Corkett" <[log in to unmask]>
To: "Berwyn Prys Jones" <[log in to unmask]>
Sent: Wednesday, August 11, 2004 10:32 AM
Subject: Re: Ysbrydoliaeth Gymraeg/Gymreig
> Annwyl ddau,
>
> Diolch yn fawr am eich awgrymiadau - y byddaf yn gwneud defnydd ohonynt -
> ond nid cyfieithiad o'r dyfyniadau Saesneg oedd fy nghais, ond dyfyniad
gan
> Gymro/Gymraes sy'n cyfleu'r un syniadau - er mwyn dangos yn y pamphled bod
> gan y Cymry hefyd eu syniadau ar
> y pwnc, nid dim ond yn cyfieithu syniadau Saesneg - neu Xhosa.
>
> Diolch,
>
> Ann
> ----- Original Message -----
> From: "Gwynallt Bowen" <[log in to unmask]>
> To: <[log in to unmask]>
> Sent: Wednesday, August 11, 2004 9:12 AM
> Subject: Re: Ysbrydoliaeth Gymraeg/Gymreig
>
>
> > "Dim ond breuddwyd yw gweledigaeth heb wiethred
> > Dim ond pasio amser yw gweithred heb weledigaeth
> > Gall gweithredu gyda gweledigaeth newid y byd" Nelosn Mandela
> > "Peidwch byth amau na all grwp bychan o ddinesyddion meddylgar
ymroddedig
> > newid y byd, yn wir dyma'r unig beth sydd wedi creu newid erioed"
Margaret
> > Mead
> > Gwynallt Bowen
> >
> >
> > -----Original Message-----
> > From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
> > [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Ann Corkett
> > Sent: 11 August 2004 00:46
> > To: [log in to unmask]
> > Subject: Ysbrydoliaeth Gymraeg/Gymreig
> >
> > 'Rwyf wrthi'n cyfieithu pamphled ar gyfer Cynllun Datblygu'r Gymuned.
> Mae'n
> > cynnwys y ddau ddyfyniad isod. Yn ogystal a'u chyfieithu, hoffwn gynnig
> > rhywbeth tebyg yn y Gymraeg gwreiddiol yn yr un ysbryd. Unrhyw
syniadau,
> os
> > gwelwch yn dda?
> >
> > "Vision without action is just a dream.
> > Action without vision is just passing the time.
> > Vision with action can change the world"
> > Nelson Mandela
> >
> >
> > "Never doubt that a small group of thoughtful, committed citizens can
> change
> > the world; indeed, it is the only thing that ever has"
> > Margaret Mead
> >
> > Diolch yn fawr,
> >
> > Ann
> >
|