Cytuno mai dyna un o ystyron 'sell through'. Ystyr arall y des i ar ei
draws ar y rhyngrwyd yw pan fydd rhywun yn defnyddio gwerthu un eitem i
werthu eitem arall /eitemau eraill - e.e. mae rhywun yn prynu Camera digidol
ac yn prynu bag ar ei gyfer, a phapur ac inc ac argraffydd ac ati - a'r
rheiny i gyd yn ychwanegol at yr eitem wreiddiol.
Ysyr arall sydd ar y we yw pan fydd rhywun yn prynu eitem drwy wefan rhywun
arall - mae'r gwerthu'n llythrennol yn digwydd 'drwy' wefan neu safle arall.
Muiris
----- Original Message -----
From: "Dafydd Tomos" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Tuesday, August 03, 2004 7:34 PM
Subject: Re: sell-through
> > Unrhyw awgrymiadau am yr ymadrodd 'sell-through'. Y frawddeg sydd gennym
> > yw 'Home video rental and sell-through' ond nid wyf yn hollol sicr beth
yw
> > ystyr y Saesneg hyd yn oed ac er mai dim ond prynhawn Dydd Mawrth ydyw,
> > mae fy ngallu i bendroni dros hyn yn prysur ddiflannu.
>
> Sell-through yw pan fo rhywun yn benthyg fideo/DVD ac yn ei hoffi
> gymaint fel ei bod yn prynu copi ei hunain (am bris ychydig yn rhatach
> fel arfer).
>
> Mae'r un egwyddor yn wir mewn marchnadoedd arall e.e. fe all rhywun
> drio pecyn meddalwedd ar brawf am fis ac yna'i brynu os yw'n
> foddhaol. Be sy'n bwysig fan hyn yw'r cyfradd gwerthu - fe all gant o
> bobl drio'r pecyn ond dim ond 5 fydd yn ei brynu.
>
> Falle fod 'rhentu a gwerthu fideos' yn ddigon addas neu 'gwerthu
> ymlaen'?
---
Outgoing mail is certified Virus Free.
Checked by AVG anti-virus system (http://www.grisoft.com).
Version: 6.0.733 / Virus Database: 487 - Release Date: 02/08/2004
|