Rhywsut neu'i gilydd ches i ddim ymateb oddi wrth neb ddoe ac rwy'n
teimlo 'chydig bach wedi'm hesgeuluso ond ta waeth, bydda i'n ceisio eto
trwy ailadrodd yr hyn y gofynnais ddoe rhag ofn bod rhywun rhywle mas 'na
yn gallu rhoi cymorth. Efallai bod problem gyda'r cyfrifiadur ddoe....
Unrhyw awgrymiadau am yr ymadrodd 'sell-through'. Y frawddeg sydd gennym
yw 'Home video rental and sell-through' ond nid wyf yn hollol sicr beth yw
ystyr y Saesneg hyd yn oed ac er mai dim ond prynhawn Dydd Mawrth ydyw,
mae fy ngallu i bendroni dros hyn yn prysur ddiflannu.
Diolch ymlaen llaw am unrhyw help
|